Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru’n teithio i Gaeredin mewn gobaith am wawr newydd

08/03/2025
Jac Morgan

Bydd Cymru’n gobeithio adeiladu ar addewid eu gêm yn erbyn Iwerddon wrth iddyn nhw herio’r Alban yn Murrayfield ddydd Sadwrn.

Er gwaetha’r perfformiad llawer gwell oedd yn rhydd o dactegau haearnaidd Warren Gatland ar brydiau, colli 18 - 27 oedd hanes Cymru yn erbyn Iwerddon dan yr hyfforddwr dros dro newydd Matt Sherratt.

Ond roedd y perfformiad yn llawer mwy calonogol na’r 43-0 yn erbyn Ffrainc a'r 22-15 yn erbyn yr Eidal a bydd Cymru yn teimlo fod gyda nhw gyfle go iawn i ennill gêm am y tro cyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2023.

Mae Cymru wedi enwi’r un 15 i ddechrau’r gêm am y tro cyntaf ers rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019 yn y gobaith o gadw’r momentwm i fynd yn erbyn yr Albanwyr.

Dim ond pedair gwaith mae Cymru wedi colli yn Murrayfield ers dechrau pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2000.

Ond mae’r rhod wedi troi dros y blynyddoedd diwethaf a Chymru’n wynebu talcen caled wrth iddyn nhw gwrso buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth yng Nghaeredin.

Yn allweddol i obeithion Cymru fydd atal Duhan Van Der Merwe ar yr asgell, wedi iddo gael cystal gêm yn erbyn Lloegr fel iddo gael gwobr Seren y Gêm er i’w dîm golli.

Mae canolwr yr Alban Huw Jones hefyd wedi bod yn fygythiad parhaus drwy gydol y bencampwriaeth, a Darcy Graham yn dychwelyd ar yr asgell arall ar ôl anaf cas yng ngêm yr Eidal.

Os yw Cymru am ennill bydd rhaid efelychu Iwerddon bedair wythnos yn ôl yn Murrayfield a sicrhau nad yw’r bêl yn cyrraedd olwyr peryglus yr Alban.

Bydd y capten Jac Morgan yn allweddol yn hynny o beth wrth ennill y frwydr gorfforol a sicrhau’r meddiant yn ardal y dacl.

'Tîm o safon'

Efallai mai un o wendidau'r Alban yw nad yw'r maswr Finn Russell wedi cael ei bencampwriaeth orau a bydd Cymru yn gobeithio y bydd ei gicio dros y pyst cynddrwg ag oedd bythefnos yn ôl pan fethodd bob un o'i goliau adlam gan gynnwys sgôr allweddol y gêm.

Rywbeth arall i roi llygedyn o obaith i Gymru yw bod y bachwr Dewi Lake yn dychwelyd i’r fainc ar ôl anaf gan roi arf nerthol arall i Gymru alw arno yn yr ail hanner.

Dwedodd hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt, ar ddydd Iau bod rhaid i Gymru herio’r garafán i barhau i wella’r wythnos hon. 

“Mae’n rhaid i ni gadw’r un dwyster a’r dewrder ddangoson ni yn erbyn Iwerddon - ond gwella ymhellach ar hynny hefyd.

“Ry’n ni gyd yn gyffrous am chwarae’r Alban yng Nghaeredin ac ‘ry’n ni gyd yn awchu am y chwiban gyntaf ddydd Sadwrn.”

Roedd hyfforddwr yr Alban, Gregor Townsend yn y cyfamser yn rhybuddio y byddai Cymru yn “chwarae â rhyddid”.

"Fe allech chi ddadlau eu bod nhw wedi cael cyfleoedd i ennill y gêm honno [yn erbyn Iwerddon]," meddai Townsend. “Fe wnaethon nhw reoli rhannau helaeth ohono.

"Maen nhw'n dîm o safon. Maen nhw wedi bod ar rediad lle maen nhw wedi colli sawl gwaith ond mae ganddyn nhw chwaraewyr da iawn.

"Mae ganddyn nhw chwaraewyr profiadol yn ôl nawr ac maen nhw'n chwarae gyda rhyddid. 

“Rwy'n siŵr y byddan nhw'n meddwl am yr ysbryd yna o fod eisiau rhoi cynnig ar bethau'r penwythnos hwn."

Ennill neu golli, bydd cefnogwyr Cymru yn gobeithio’n bennaf na fyddwn nhw’n gadael y stadiwm yn digalonni am ddyfodol rygbi yng Nghymru fel oedden nhw ar ddechrau’r bencampwriaeth.

Llun: Jac Morgan gan Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.