Trenau Eurostar wedi eu gohirio wedi i hen fom gael ei ddarganfod
Mae trenau'r Eurostar o Lundain i Baris wedi eu hatal am y dydd ar ôl i hen fom o'r Ail Ryfel Byd gael ei ddarganfod.
Cafodd ei ddarganfod ger y cledrau yn ardal St Denis o ogledd Paris am 04:00 fore dydd Gwener.
Roedd 32 o drenau i fod i deithio rhwng y ddwy brifddinas yn ystod y dydd ond mae'r oedi wedi amharu ar filoedd o deithwyr.
Yng ngorsaf St Pancras Llundain fe fu teithwyr yn aros am ragor o wybodaeth.
“Roeddem ni’n gobeithio y byddai yna fwy staff Eurostar” meddai Lauren Romeo-Smith, a oedd yn gobeithio ymweld â Pharis ar gyfer dathliad pen-blwydd.
“Rydyn ni’n chwilio am deithiau hedfan, ond mae ein hopsiynau’n gyfyngedig” meddai Charlotte Kidd, a oedd yn gobeithio ymweld â Disneyland Paris.
Dwedodd ei bod yn dal yn gobeithio i gael mynd i Disneyland. “Mae gennym ni ddwyawr. Os na, byddwn yn ceisio cyrraedd yno ryw ffordd arall.”
Hedfan
Dywedodd Emma Roe, sy'n rhan o grŵp o wyth o ffrindiau, eu bod wedi ystyried gwneud cais am hediad o Faes Awyr Luton i Amsterdam, ond nid oes dim ar gael tan 18:00 nos Wener.
Ychwanegodd: "Rydym i gyd yn rhieni, felly nid ydym am golli ein penwythnos rhydd."
Arweiniodd darganfod y bom at atal pob gwasanaeth i Gare du Nord, sef gorsaf Eurostar ym Mharis.
Mae bomiau o’r Ail Ryfel Byd yn cael eu darganfod yn aml ond mae'n beth prin pan mae bom yn cael ei ddarganfod mewn ardal boblog a phrysur.
Mae gorsaf Gare du Nord yn cysylltu Paris â gorsafoedd rhyngwladol eraill, megis gorsafoedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r Almaen, yn ogystal â threnau i orsafoedd domestig.
Mae'n un o'r gorsafoedd rheilffordd prysuraf y byd y tu allan i Japan.
Nid yw trenau rhwng Llundain a Brwsel wedi'u heffeithio.