Cadw prifathro yn y ddalfa wedi ymosodiad honedig mewn ysgol
Cadw prifathro yn y ddalfa wedi ymosodiad honedig mewn ysgol
Mae pennaeth ysgol uwchradd yn ne Cymru wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl iddo gael ei gyhuddo o geisio anafu dyn arall yn ei ysgol yn gynharach yr wythnos hon.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiad o ymosodiad yn Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan am 09:50 fore Mercher.
Nos Iau, dywedodd Heddlu De Cymru bod pennaeth yr ysgol, Anthony Felton, 54 o Abertawe, wedi ei gyhuddo o geisio anafu'n fwriadol.
Fe wnaeth Mr Felton ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore dydd Gwener.
Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr.
Ni wnaeth gyflwyno ple.
Fe fydd yn ymddangos ar gyfer gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Ebrill.
Cafodd Felton, o Heol Penyrheol, Gorseinon, Abertawe ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Rhanbarth Christopher James.
Dywedodd wrtho: “Rwy’n eich anfon i lys y goron at ddibenion treial. Byddwch yn mynychu Llys y Goron Abertawe ar Ebrill y seithfed.
“Tan hynny byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa.”
Mae dioddefwr yr ymosodiad bellach wedi gadael yr ysbyty gyda mân anafiadau.