Newyddion S4C

‘Nifer o ASau Llafur yn wrth-ddatganoli’ medd cyn weinidog Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths

Mae un o gyn weinidogion mwyaf profiadol Llywodraeth Cymru wedi dweud bod nifer o ASau'r Blaid Lafur wedi bod yn wrthwynebus i ddatganoli.

Fe wnaeth Lesley Griffiths, a fu'n weinidog yn y cabinet am 15 mlynedd ac sy'n aelod o Senedd Cymru dros Wrecsam, y sylwadau ar bodlediad Y Pumed Llawr Lee Waters, yr aelod o Senedd Cymru dros Lanelli.

Wrth ei holi ar bwnc pwysau gwleidyddol o fewn ei phlaid ei hun, dywedodd ei bod hi wedi bod yn cydweithio yn ystod ei chyfnod fel gweinidog gydag ASau Llafur oedd yn yr wrthblaid.

“Mae’n deg dweud bod nifer ohonyn nhw wedi bod yn wrth-ddatganoli,” meddai.

“Efallai na fyddwn nhw’n cytuno â hynny, neu’n cyfaddef hynny.

“Ond os oeddet ti’n crafu’r wyneb mi’r oedden nhw.

“Roedd nifer yn gefnogol iawn. Roedd yna rywfaint o muttering, o bosib.

“Dw i ddim yn meddwl bod yr un ohonyn nhw wedi fy herio i ynglŷn â phenderfyniadau. Ond mi’r oedd yna anhapusrwydd ar brydiau.”

‘Penderfyniadau anodd’

Roedd Lesley Griffiths yn weinidog iechyd, llywodraeth leol, materion gwledig, gogledd Cymru ac yn Drefnydd y Senedd yn ei chyfnod yn y llywodraeth rhwng 2009 a 2024.

Mae wedi cyhoeddi ei bwriad i gamu o’r neilltu'r flwyddyn nesaf yn etholiad Senedd Mai 2026.

Dywedodd ar y podleidiad ei bod hi’n meddwl y byddai symud o fod yn wrthblaid i blaid mewn llywodraeth yn gwneud gwahaniaeth i agweddau ASau Llafur Cymru.

“Mae’n hawdd bod yn wrthblaid, swn i’n dychmygu - dw i’n ffodus nad ydw i erioed wedi bod,” meddai.

“Felly dw i’n meddwl os wyt ti’n edrych ar ASau oedd yn yr wrthblaid pan oedden i’n Weinidog, mae’n hawdd dweud ‘Fe fyddwn i’n gwneud hyn’.

“Ond pan wyt ti mewn llywodraeth, rwyt ti’n gwybod dy hun, mae’n nhw'n benderfyniadau anodd, anodd.”

Er bod nifer o ASau Llafur yn wrthwynebus i ddatganoli ni chafodd hynny fawr o effaith ar Lywodraeth Cymru, meddai.

“Os oedden nhw yn ysgrifennu ata i am rywbeth, neu yn siarad â mi am rywbeth yn y gynhadledd, yn amlwg fe fyddwn i’n gwrando, ond yn y pen draw, ni oedd piau’r penderfyniadau,” meddai.

“Rwy’n meddwl bod Covid yn faes lle’r oeddem yn wahanol iawn yng Nghymru am y rhesymau cywir. Ac rwy'n meddwl bod hynny wedi dod i'r amlwg.

“Ar lefel bersonol, yn sicr doedden i ddim yn teimlo i mi gael fy nylanwadu.”

Nid oedd Llafur Cymru am wneud sylw am sylwadau Lesley Griffiths i Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.