Y celfyddydau yng Nghymru ‘ar eu gliniau’ meddai Syr Bryn Terfel
Mae’r celfyddydau yng Nghymru “ar eu gliniau” ac mae angen i Lywodraeth Cymru wario mwy o arian ar y maes, yn ôl y canwr opera Syr Bryn Terfel.
Dywedodd Syr Bryn sy’n ymddangos fel un o’r beirniaid ar raglen Y Llais ar hyn o bryd ei fod yn croesawu arian newydd tuag at y diwydiant yn y gyllideb a gafodd sêl bendith y Senedd ddydd Mawrth.
Ond dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y swm yn “dwblu” yn y dyfodol.
“'Da ni ar ein pennau gliniau tydan fel celfyddyd ac mewn gwlad lle ddylia ni fod yn edrych o gwmpas ar ein gilydd a dweud beth sy’n digwydd,” meddai wrth BBC Radio Cymru.
“Gobeithio pan ddaw'r gyllideb allan eto y bydd yna fwy o arian yn cael ei dynnu. Ond 'da ni gyd yn rhoi ein henwau tuag at lythyrau.
“Ydi o’n taro’n nod? Yndi yn y modd y mae 4.4m wedi cael ei ategu.
"Ond gobeithio yn y flwyddyn i ddod y dwblith y ffigwr yna.”
Ym mis Chwefror fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £4.4m y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.
Mae'r cyllid yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i'r sector ar gyllideb refeniw'r llynedd.
Bydd £272,000 ychwanegol hefyd ar gael i'r sector cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru yn ei Gyllideb Derfynol.