
Dynes wedi rhannu fideo o'i ffrind hanner awr cyn iddi farw yn Eryri
Mae dynes wedi rhannu fideo o griw o gerddwyr yn gwneud y don Fecsicanaidd ar gopa mynydd yn Eryri – hanner awr cyn i'w ffrind ddisgyn i'w marwolaeth.
Bu farw Maria Eftimova, 28 oed o St Helen's yng Nglannau Mersi, ar ôl disgyn 60 troedfedd ar fynydd Tryfan fis diwethaf.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei ffrind Nargesse El Haiba ei bod "o'r diwedd" wedi llwyddo i rannu'r fideo ar ei chyfryngau cymdeithasol.
"Rwyf o’r diwedd wedi bod yn ddigon dewr i edrych ar ein ffilm olaf gyda’n gilydd yn gwneud y don Mecsicanaidd ar y Canon," meddai.
"Bydd hyn wedi bod tua 30 munud cyn dy ddamwain drasig a chdithau’n cymryd dy anadl olaf o fy mlaen.
"Dechreuais CPR cyn gynted ag y cefais i a Flo chdi'n ddiogel, ond roedd y nefoedd eisoes wedi dy hawlio fel eu hangel.
"Dw i'n dy alaru ac wedi crio cymaint fel na alla i grio mwyach."
Ychwanegodd: "Dw i'n gobeithio dy fod yn falch ohonom i fyny fan 'na am sut rydym yn cefnogi dy deulu a dy ffrindiau tra’n bod yn dal i ddisgyn i ddarnau ein hunain. Gobeithio dy fod yn gwybod y byddwn bob amser yno ar eu cyfer!
"Fydda i byth yn cymryd y mynyddoedd yn ganiataol eto."

Fe gafodd cwest i farwolaeth Miss Eftimova ei agor yng Nghaernarfon ddydd Mercher.
Dywedodd uwch grwner gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Miss Eftimova gyda grŵp o ffrindiau ar gopa mynydd Tryfan.
"Yn ystod ei hamser yno, roedd yn ceisio cyrraedd silff i gael gafael ac roedd wedi mynd i godi ei hun i fyny.
"Mae ei sawdl wedi llithro ac mae hi wedi disgyn o’r silff ac mae’n ymddangos ei bod hi wedi disgyn cryn bellter."
Cafodd Miss Eftimova, sy'n wreiddiol o Fwlgaria, anafiadau i'w phen.
Gohiriodd y crwner y cwest er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

Hi oedd yr ail ddynes i farw o fewn cyfnod o wythnos ar gopa Eryri.
Syrthiodd Dr Charlotte Crook, 30, ar y Glyder Fach.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i'r ddau ddigwyddiad.
Mae apêl codi arian wedi'i lansio i gefnogi teulu Miss Eftimova.
"Roedd Maria yn ferch 28 oed uchelgeisiol, disglair a hoffus, ac roedd ei phersonoliaeth fywiog, ei hegni a'i naws yn cyffwrdd ac yn codi calonnau'r rhai o'i chwmpas," meddai trefnwyr yr apêl mewn datganiad ar wefan JustGiving.
"Roedd ganddi angerdd am beirianneg, ar ôl astudio Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Salford, a chariad at chwaraeon eithafol.
"Ei hangerdd mwyaf oedd eirfyrddio, rhywbeth yr oedd yn gyffrous iawn amdano ac yn edrych ymlaen at wneud eto ar ei thaith nesaf i Awstria.
"Roedd ganddi angerdd dros fywyd a darganfod harddwch y byd. Cafodd ei chymryd oddi wrth ei theulu yn llawer rhy fuan.
"Ni all geiriau fynegi’r dinistr y mae ei theulu a’n cymuned yn ei brofi."
Ychwanegodd y trefnwyr bod teulu Ms Eftimova, sy'n byw yn Bwlgaria, yn wynebu "baich ariannol sylweddol" i ddychwelyd ei chorff.
"Mae’r costau sy’n gysylltiedig â dychwelyd corff yn rhyngwladol yn sylweddol," medden nhw.
"Ac rydym am gymryd y baich ychwanegol fel y gallant ganolbwyntio ar alaru eu merch werthfawr."