Parc hamdden mwyaf Cymru yn cau
Mae parc hamdden mwyaf Cymru, Oakwood yn Sir Benfro yn cau, yn ôl datganiad annisgwyl gan y perchnogion.
Roedd y parc wedi cau ar gyfer misoedd y gaeaf, ond roedd disgwyl iddo ail agor ar gyfer tymor 2025.
Mae'r parc yn cau ar unwaith, ac yn ôl y perchnogion, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a'r "heriau economaidd" sydd i gyfrif am hynny.
Mae Parc Oakwood wedi bod yn gyrchfan boblogaidd yn y de orllewin ers iddo agor yn 1987.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd perchnogion y parc: "Gyda thristwch mawr, rydym yn cyhoeddi y bydd Parc Thema Oakwood yn cau ar unwaith. Ac rydym yn cadarnhau na fydd y parc yn agor ar gyfer tymor 2025.
"Yn dilyn adolygiad strategol o'r busnes, mae perchennog Oakwood, Aspro Parks wedi gwneud y penderfyniad anodd hwn, yn sgil yr heriau oherwydd yr amgylchedd busnes presennol.
"Cafodd pob opsiwn posibl ei archwilio er mwyn osgoi'r sefyllfa hon. Ac rydym yn llwyr gydnabod yr effaith ar y gymuned leol, a'r golled a gaiff ei theimlo o ganlyniad i'r penderfyniad hwn."
Mae datganiad gan Aspro Parks Group yn nodi: “Yn holl hanes Aspro, ry'n ni erioed wedi cau parc neu atyniad.
"Rydym ni a'n tîm o staff wedi ceisio mynd i'r afael â sawl her, er mwyn parhau i ddod â llawenydd i deuluoedd ac ymwelwyr. "
Mae'r perchnogion Parc Oakwood wedi diolch i'w gweithwyr, eu cyflenwyr a chontractwyr, yn ogystal â'r holl ymwelwyr dros y blynyddoedd.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd yr aelod lleol yn y Senedd, y Ceidwadwr Sam Kurtz fod hwn yn newyddion trist.
"Mae Oakwood wedi bod yn agos at galon nifer o bobl yn Sir Benfro a thu hwnt.
"Mae hwn yn adlewyrchiad trist o'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth a'r economi yn ehangach, yn sgil camreoli Llafur bob pen i'r M4."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion gofidus i weithwyr Oakwood, eu teuluoedd a'r gymuned leol.
"Rydyn ni’n barod i gynnig cefnogaeth i'r gweithlu sydd wedi ei effeithio gan y penderfyniad hwn."