Y canwr Geraint Jarman wedi marw'n 74 oed
04/03/2025
Y canwr Geraint Jarman wedi marw'n 74 oed
# Gwesty Cymru #
Yn fardd oedd yn feistr ar ei fiwsig.
# Methu dal y pwysau #
Mae ei gerddoriaeth yn gyfarwydd i genedlaethau o Gymry.
Wedi'i eni yn Sir Ddinbych a'i fagu am gyfnod byr yn Rhuthun symudodd Geraint Jarman i Gaerdydd cyn troi'n 4 oed i ddinas fyddai'n drwm iawn ei dylanwad arno.
Dechreuodd ei yrfa fel bardd a chyfansoddwr yn y 1960au.
Erbyn y '70au daeth yn aelod o'r band Bara Menyn gyda Meic Stevens a Heather Jones.
# Dw i eisiau mynd lle mae'r bobl gwyllt yn byw #
Cafodd ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif ei ryddhau yn 1976.
Fel artist unigol a gyda'i fand, Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr daeth un albwm llwyddiannus ar ol y llall.
Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.
"Maen nhw'n deud bod eicon yn gallu cael ei nabod o'i silhouette.
"Oedd Geraint Jarman yn sicr yn un o'r rheiny.
"O'n i'n meddwl bod o'n lwcus o'i wallt a'i enw stage name mor cwl!
"Dw i'n cofio Geraint blynyddoedd nol, fe oedd y tawelaf yn y band.
"Gweld ei ddatblygiad fel cerddor yn gwneud mwy o bethe arbrofol ac yn gwneud y peth dewr yn yr '80au pan roedd sensitifrwydd am y Gymraeg o ddod a cherddorion di-Gymraeg ardderchog i'w fand.
"Fo ddaru ein cyflwyno ni i Titch Gwilym a chodi'r bar o ran gweddill y sin roc.
"Roedd o'n hynod o garismatig.
"Yn berwi efo'r sdwff."
Llwyddodd ei gerddoriaeth bontio cymunedau yng Nghaerdydd a thu hwnt.
I gydweithiwr agos, roedd hynny'n gamp aruthrol.
"Dw i'n coelio bod o wedi ail-ddiffinio diwylliant ac iaith i fod yn rhywbeth mwy cynhwysol a chyfoes.
"Mi ddaeth o a safon i gerddoriaeth, teledu a llenyddiaeth nad oedd yn bodoli cynt.
"Na'th o warchod a datblygu'r safon.
"Dw i'm yn meddwl welwn ni rywun sydd 'di cael yr un dylanwad felly."
Nethoch chi gydweithio ag e am flynyddoedd lawer.
Roedd e'n fwy na chydweithiwr.
"Roedd o'n ffrind ar lefel allu siarad a trafod ond yn yr ystyr ehangach roedd ei gyngor a'i ddylanwad yn anferthol.
"Yn ogystal a'r fraint o gael rhyddhau recordiau roedd gallu ymgynghori efo fo fel person oedd yn gweld cerddoriaeth Gymraeg yng nghyd-destun byd-eang.
"Roedd ei gyngor a'i fewnbwn mor bwysig."
I gerddor, cyflwynydd a threfnydd gigs, mae ei gyfraniad yn aruthrol.
"Mae o 'di dylanwadu gymaint o artistiaid eraill.
"Alli di gymryd unrhyw gan o'i gorff o waith alli di gymryd Ethiopia Newydd, Quantum Dub mae 'na gymaint o stwff sy'n golygu gymaint."
Bydd yn cael ei gofio fel cerddor ond roedd e'n fwy na hynny.
Roedd yn fardd.
"Does dim adar yng nghoed Edern, dim ond cwn.
"Dim canu, dim ond cyfarth."
Yn un o gynhyrchwyr arloesol Fideo 9, yn actor.
"Ia, wel, gweld hi braidd yn oer oeddwn i!"
Heb anghofio "Well i ni sibrwd y gair hud!" llais Superted.
Am hanner canrif bu'n diddanu cynulleidfaoedd mewn amryw feysydd.
Bydd ei gyfraniad i'w deimlo am ddegawdau eto.
# Fe yw gobaith mawr y ganrif #
"Dw i'm yn ffan o'r gair gwaddol ond os oes rhywun wedi gadael gwaddol mae Geraint wedi."
Mae'r waddol yn un gerddorol, gelfyddydol, diwylliannol ac yn un ieithyddol anferthol.
Cofio Geraint Jarman sydd wedi marw yn 74 oed.