Polisïau disgyblu pleidiau gwleidyddol ‘ddim yn addas’, medd cyn Ysgrifennydd Cymru

Dyw polisïau disgyblu pleidiau gwleidyddol ddim yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, medd cyn Ysgrifennydd Cymru a chyn-Brif Chwip Llywodraeth y DU.
Yn ôl Simon Hart, dyw'r ffordd mae pleidiau gwleidyddol yn delio gyda phroblemau difrifol, fel ymddygiad gwael neu drosedd gan ASau ddim yn addas i’r ganrif hon.
Roedd Hart yn AS dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hyd at yr Etholiad Cyffredinol yn 2024. Mae newydd gyhoeddi dyddiadur o’i amser yng nghabinet Boris Johnson a Rishi Sunak.
Mae'r llyfr yn cynnwys ei ymateb i gyfnodau o gamymddwyn rhywiol, gan gynnwys ymdrin â honiadau o ymosodiad rhywiol difrifol.
Ond mewn cyfweliad gyda Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, Adrian Masters, mae Mr Hart yn dweud nad yw’n meddwl mai’r rhai sydd â rôl wleidyddol fel Chwip neu Brif Chwip ddylai fod yn gyfrifol am ddelio gyda’r problemau mwyaf difrifol.
“Dydy swyddfa’r Chwip ddim yn ganolfan gwnsela, ddim yn dîm o gyfreithwyr, nac yn feddygfa. Dydyn ni ddim yn lawer o bethau. Ein rôl ni oedd cyflawni busnes y llywodraeth. Roedd gofyn i ni ddelio â rhai materion cymhleth iawn, trasig iawn, ac mewn rhai achosion oedd hynny yn ein gwneud ni i gyd yn nerfus braidd," meddai.
‘Newid’
Mae'n dweud bod angen newid, ac nad yw’r “system yma yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
“Mae yna lawer o, wyddoch chi, ‘nudge, nudge’ a hynny i gyd o amgylch yr hyn y mae swyddfa’r Chwip yn ei wneud a’r pŵer y mae’n ei ddefnyddio. Mae hynny i gyd yn iawn ac mae'n creu stori dda [ond] nid wyf yn meddwl ei bod o reidrwydd yn gwneud man gweithio da yn 2025.
“Mae yna bobl dda sydd o bryd i’w gilydd, mewn unrhyw weithle yn gwneud rhywbeth yn anghywir, a dydw i ddim yn meddwl mai ni o reidrwydd oedd y bobl orau i wybod sut i lywio hynny.”
Effaith sgandalau, cyhuddiadau o ddrwgweithredu ac ymladd o fewn y blaid arweiniodd y Ceidwadwyr at gael canlyniadau siomedig yn yr Etholiad Cyffredinol meddai Simon Hart.
“Roedd pobl wedi diflasu ar ddrama’r Torïaid ac wedi colli hyder yn dilyn digwyddiadau fel ‘Partygate’. Ac wrth gwrs roedd eu hyder economaidd ynom ni wedi chwalu yn ystod cyfnod Liz Truss.
“I mi roedd y genedl wedi newid safbwynt ac wedi penderfynu, wyddoch chi beth? Dyw’r bois yma ddim yn ddoniol bellach.”