Newyddion S4C

Rhieni’n gwario £19 y plentyn ar Ddiwrnod y Llyfr

05/03/2025
Diwrnod y Llyfr

Mae rhieni’n gwario £19 y plentyn ar gyfartaledd ar wisgoedd ar gyfer dathliadau Diwrnod y Llyfr eleni, yn ôl gwaith ymchwil.

Mae hwn yn gynnydd o’r £17 y plentyn a wariodd rhieni ar gyfartaledd y llynedd.

Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan wasanaeth ariannol Rakuten, a chafodd 2,000 o rieni eu holi yn y Deyrnas Unedig.  

Bydd Diwrnod y Llyfr yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Iau, 6 Mawrth 2025. 

Y nod yw annog plant i wneud darllen yn arferiad, a’u hysbrydoli i ddathlu eu hoff lyfrau, awduron a darlunwyr.

Ond mae’n ymddangos bod y digwyddiad yn creu elfen o gystadleuaeth ymhlith rhai rhieni. Roedd 22% yn teimlo’r angen i greu argraff, yn ôl yr arolwg gan Opinium a gafodd ei gynnal fis Chwefror.

Dywedodd 11% o rieni eu bod yn gwario mwy na £50 y plentyn ar wisgoedd ar gyfer y digwyddiad.

Mae rhieni sy'n ceisio lleihau costau yn cael eu hannog i edrych am wisgoedd i’w plant mewn archfarchnadoedd, edrych am fargeinion a thalebau ac ailddefnyddio gwisgoedd sydd ganddyn nhw’n barod.

Ffyrdd eraill o arbed arian, medd arbenigwyr, yw cael gwisgoedd gan blant eraill, pan fo'r dillad yn rhy fach iddyn nhw bellach, creu gwisgoedd eu hunain, holi’r ysgol am gynlluniau cyfnewid lleol, neu benderfynu ar uchafswm gwariant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.