Dolly Parton yn rhoi teyrnged i'w gŵr wedi iddo farw
04/03/2025
Mae gŵr y gantores canu gwlad Dolly Parton wedi marw.
Roedd Carl Dean yn 82 oed a'r ddau wedi bod gyda'i gilydd am dros 60 o flynyddoedd.
Mewn datganiad dywedodd Dolly Parton bod Carl wedi marw yn Nashville ar y trydydd o Fawrth.
"Fe dreuliodd Carl a fi nifer o flynyddoedd hyfryd gyda'n gilydd. All geiriau ddim gwneud cyfiawnder er mwyn cyfleu'r cariad wnaethon ni rhannu am dros 60 o flynyddoedd. Diolch am eich gweddïau a'ch cydymdeimlad."
Does dim gwybodaeth wedi ei rhoi am sut y buodd Carl Dean farw.