Syr Keir Starmer i anerch ASau wedi ei drafodaethau ar ddyfodol Wcráin
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun am y tro cyntaf ers ei ymgyrch ddiplomyddol sylweddol ar draws Môr yr Iwerydd ac yna gydag arweinwyr rhyngwladol yn Llundain.
Bydd ASau yn clywed datganiad gan y Prif Weinidog yn dilyn ei gyfarfod gyda Donald Trump yn Washington DC, yn ogystal ag uwchgynhadledd amddiffyn brys yr arweinwyr Ewropeaidd y bu’n cyfarfod dros y penwythnos.
Dywedodd Syr Keir wrth arweinwyr gwledydd Ewropeaidd bod yn rhaid iddyn nhw sylweddoli ei bod hi’n “amser i weithredu”, a rhybuddiodd eu bod yn sefyll ar “groesffordd mewn hanes”, yn dilyn y cyfarfod dydd Sul yn Lancaster House, plasty ger Palas Buckingham.
Ymrwymodd £1.6 biliwn tuag at helpu Wcráin i brynu 5,000 o daflegrau i’w hamddiffyn a gwahoddodd arweinwyr Ewropeaidd i ymuno â “chlymblaid o’r rhai parod” dan arweiniad Prydain a Ffrainc, gyda'r nod o ddiogelu unrhyw gytundeb heddwch yn y dyfodol.
Mae America yn ceisio trafod gyda Rwsia yn uniongyrchol ond mae Syr Keir wedi mynnu bod yn rhaid i wledydd Ewropeaidd chwarae rhan allweddol wrth orfodi cytundeb heddwch ac atal Vladimir Putin rhag ei dorri.
Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, fod y DU a Ffrainc yn cynnig cynllun cadoediad un mis y byddan nhw’n ei gyflwyno i’r Unol Daleithiau fel rhan o ymgais i achub eu cysylltiad â gweinyddiaeth Trump, yn ôl papur newydd Le Figaro yn Ffrainc .
Ond roedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn ymbellhau oddi wrth awgrymiadau bod cynllun o'r fath wedi'i gytuno.