Eisteddfod Genedlaethol 2025: Agor maes pebyll arall i gynnig ‘profiad newydd’
Fe fydd maes gwersylla newydd ar gael yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yr haf yma “i’r rhai sydd ddim am weld y parti’n pylu”.
Bwriad maes pebyll Hwyrnos, meddai’r Eisteddfod, yw “cynnig profiad newydd o’ch hoff ŵyl”.
Fe fydd yn rhaid bod dros 21 oed i aros yn Hwyrnos.
Mewn cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod: “Methu ffeindio rhywle i aros, ddim yn berchen ar garafan a theimlo’n rhy hen i wersylla yn Maes B? Gad i ni gyflwyno Hwyrnos, maes pebyll newydd i’r rhai sydd ddim am weld y parti’n pylu.
“Yn cynnig profiad newydd o’ch hoff ŵyl, bydd Hwyrnos wedi’i leoli rhwng Maes B a’r Maes Carfannau, a drws nesaf i faes yr Eisteddfod.”
Ychwanegodd yr Eisteddfod fe fydd modd prynu tocyn wythnos, hanner wythnos a phenwythnos olaf o 10:00 dydd Llun 3 Mawrth ymlaen, gyda’r opsiwn o gynnwys tocynnau cyfnod i’r Maes neu gigs Maes B fel rhan o’r pecyn.