Newyddion S4C

'Hynod o bwysig': Cyhoeddi Gwobrau Cerddoriaeth Pobl Ddu yng Nghymru

02/03/2025
Gwobrau Cerddoriaeth Pobl Ddu Cymru

Fe fydd gwobrau newydd yn cael eu cynnal eleni i ddathlu cyfraniad artistiaid du ar sîn gerddorol Cymru.

Fe fydd y Gwobrau Cerddoriaeth Pobl Ddu Cymru (Black Welsh Music Awards - BWMA) yn cael eu cynnal am y tro cyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd fis Hydref.

Dywedodd y gantores a seren Goglbocs Cymru, Molara Awen: “Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o bwysig i gerddoriaeth o genhadaeth bobl ddu (MOBO) yng Nghymru.”

Daw wedi i Ŵyl Gerddoriaeth Pobl Ddu Cymru gael ei chynnal am y tro cyntaf y llynedd. Bydd yn dychwelyd eleni, a chael ei chynnal yn y Plas ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni bydd yr artist rhyngwladol, Phyno, sydd wedi perfformio gyda'r seren byd enwog, Burna Boy.

Fe fydd digwyddiad i lansio’r gwobrau yn cael ei gynnal yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach fis yma.

Image
Gwobrau

Mewn cyfweliad ar gyfryngau BWMA, dywedodd y rapiwr a’r cyflwynydd, Dom Lloyd: “Mae’n mor bwysig. Dwi’n gwybod bydd yn cael ei wneud mewn ffordd sut mae pobl yn cael eu parchu a’u deall.

“Mae’n anodd cael cydnabyddiaeth mewn lle fel Cymru, ond mae’n neis i weld bod rhywbeth fel hyn yn digwydd a dwi’n mynd i weld lot o bobl dwi’n eu caru.”

Dywedodd Uzo Iwobi CBE, un o sefydlwyr yr ŵyl a dirprwy lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: “Mae Gwobrau Cerddoriaeth Pobl Ddu Cymru yn gynllun hir-ddisgwyliedig er mwyn amlygu’r dalent sydd wedi siapio a dylanwadu a cherddoriaeth yng Nghymru.

“Mae’r digwyddiad hwn wedi’i seilio ar gynrychiolaeth, dathlu a chynnig gwaddol.

"Mae ein hartistiaid du yng Nghymru yn creu hanes, ac rydym yn gwahodd pawb i fod yn rhan ohono.”

Llun: Bruna Garcia a Sage Todz yn perfformio yng Ngŵyl Gerddoriaeth Pobl Ddu Cymru 2024 (Facebook/Black Welsh Music Awards)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.