Newyddion S4C

Carchar i gyn-reolwr trenau a wnaeth ymosod ar ddynes 18 oed ar drên i Abertawe

Nicholas McMurray

Mae cyn-reolwr trenau wedi’i garcharu ar ôl iddo ymosod yn rhywiol ar ddynes 18 oed ar drên o Gaerdydd i Abertawe. 

Cafwyd Nicholas McMurray, o Fryn Goleu Abertawe, yn euog o ymosodiad rhyw ar deithiwr yn ei harddegau yr haf diwethaf.

Cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, ar ôl ei gael yn euog o ddau gyfrif. 

Mae hefyd wedi cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes. 

Clywodd y llys fod McMurray wedi gofyn i gael gwirio tocyn y teithiwr, fel rhan o’i swydd fel rheolwr trên ar gyfer Great Western Railway (GWR), tua 20.45 ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin y llynedd.

Wrth iddo basio ei sedd fe wnaeth gyffwrdd ei gwisg.

Ychydig cyn i'r trên gyrraedd Abertawe, tra roedd y dioddefwr yn sefyll yn y cyntedd yn siarad ar ei ffôn symudol, daeth McMurray ati ac ymosod yn rhywiol arni. 

Parhaodd i ddal y dioddefwr nes i’r trên dynnu i mewn i’r orsaf a gwneud sylwadau rhywiol wrthi cyn cyffwrdd â hi eto wrth iddi ddod oddi ar y trên. 

Cysylltodd y dioddefwr â swyddogion yn yr orsaf a rhoi gwybod am y digwyddiad. 

Daeth swyddogion o hyd i McMurray a oedd yn dal i sefyll wrth ymyl y trên segur, a'i arestio. Cafodd McMurray ei ddiswyddo ar unwaith fel Rheolwr Trên i GWR ac nid yw bellach yn gweithio i'r cwmni. 

Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Farrell: “Pan gafodd ei arestio, fe wnaeth McMurray ddweud celwydd wrth swyddogion gan ddweud bod y dioddefwr wedi ceisio ei gusanu a’i fod wedi ei gwthio i ffwrdd. 

“Parhaodd ei gelwyddau mewn cyfweliad gan iddo honni bod y dioddefwr wedi cydsynio i’w weithredoedd.

“Fe wnaeth McMurray gam-drin ei safle yn llwyr a manteisio ar y ddynes ifanc hon. 

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r dioddefwr am ei dewrder drwy gydol ymchwiliad yr heddlu. 

“Bydd yn rhaid i McMurray nawr dreulio cryn dipyn o amser i fyfyrio ar y camau a gymerodd y diwrnod hwnnw” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.