Newyddion S4C

Gwynedd: Cynlluniau i ‘adfywio’ Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis

01/03/2025
Amgueddfa Lechi Cymru

Mae gwaith i adfywio atyniad twristaidd enwog a hanesyddol yn Eryri i gael eu rhoi gerbron cynllunwyr.

Fe fydd Cyngor Gwynedd yn ystyried cais am waith adfer yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ddydd Llun.

Mae swyddogion cynllunio yn argymell cymeradwyo’r cynlluniau.

Mae’r cynigion, a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru yn disgrifio newidiadau mewnol ac allanol i safle rhestredig Gradd I Gilfach Ddu.

Mae’r newidiadau ar y safle yn cynnwys dymchwel y caffi a’r siop, a chodi adeiladau newydd – ond “mae mwyafrif helaeth y gwaith yn fewnol”.

Dywedodd y ddogfen gynllunio: “Nid oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer y rhain, ond maen nhw wedi cael eu hasesu o fewn y cais adeilad rhestredig cysylltiedig.”

Yn ogystal â chynhyrchu llechi, mae gan y safle nodweddion gan gynnwys gefail, ffowndri a chyfleusterau i atgyweirio locomotifau stêm.

Caeodd y chwarel a'r gweithdai yn 1969, gyda'r amgueddfa'n agor ym 1972.

Ym mis Tachwedd, 2024, cyhoeddodd yr amgueddfa ei bod yn cau dros dro ar gyfer gwaith uwchraddio gwerth £21m ac ni ragwelir y bydd yn ailagor tan 2026.

Image
Amgueddaf Lechi Llanberis
Cynlluniau i adfer Amgueddfa Lechi Cymru

Roedd yr amgueddfa wedi datgan yn flaenorol y byddai adfer y safle yn ei drawsnewid yn “atyniad ymwelwyr o safon fyd-eang” yng nghanol Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Mae dogfennau cynllunio yn datgan y gobeithir y bydd y gwaith yn “ychwanegu at gymeriad yn ogystal â mwynhad y safle yn ei gyfanrwydd trwy wella profiad ymwelwyr”.

Mae adeiladau newydd wedi eu “cynllunio’n ofalus” mewn perthynas â’r safle presennol.

Mae ystafell arddangos newydd hefyd yn yr arfaeth.

Disgrifiodd y cynlluniau safle Gilfach Ddu fel un “trawiadol a phwysig” o fewn y pentref, gan nodi ei ddiwylliant a’i hanes “o fewn cof byw”.

“Felly, rhaid ymdrin ag unrhyw newid i’r safle yn sensitif iawn, a theimlir mai’r driniaeth o’r gwaith i’r prif adeiladau yw’r lleiafswm sydd ei angen i’w hadfer a’u diogelu i’r dyfodol,” dywed y cynlluniau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.