
'Empathi a gofal yn bwysig': Hanner canrif o drefnu angladdau

'Empathi a gofal yn bwysig': Hanner canrif o drefnu angladdau
Mae Gareth Jenkins, 66, yn berchen busnes angladdau ym Maglan, Castell-nedd Port Talbot, ac eleni mae wedi cyrraedd carreg filltir.
Dros yr hanner canrif ddiwethaf mae Mr Jenkins wedi trefnu cannoedd o angladdau, gyda’r cyntaf pan oedd ond yn 16 oed.
Roedd tad Mr Jenkins yn drefnwr angladd, ac o weld gwaith pwysig ei dad daeth yr angerdd.
“Fi’n cofio’r angladd cyntaf, yn 16 oed. Oedd Dad ar wyliau ac felly doedd dim dewis, roedd rhaid i mi gamu mewn a gwneud y swydd.
“Oedd rhaid i mi fenthyg siwt fy nhad, a'i esgidiau hefyd. Ac roedd e faint yn llai na fi, felly ro'n i'n cerdded ychydig yn ddoniol yn yr angladd cyntaf,” meddai Mr Jenkins.
Mae Mr Jenkins yn parhau i drefnu angladdau a hynny gyda’i wraig Christine 50 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae’r ddau yn rhedeg eu busnes uwch ben safle’r hen swyddfa bost ym Maglan.

Yn ôl Mr Jenkins mae heriau wedi bod ar hyd y daith ond mae gallu helpu teuluoedd mewn galar yn bwysig iawn iddo.
“Dros 50 mlynedd, mae fe wedi bod yn galed, ma’ fe’n lan a lawr.
“Ma’ fe wedi rhoi lot o bleser i fi, oherwydd fi wedi helpu teuluoedd yn yr ardal, am 50 mlynedd.
“Mae bod yn drefnwr angladdau yn debyg iawn i fod yn nyrs, rhaid cael empathi a gofal.”
Does gan Mr Jenkins ddim cynlluniau i roi gorau i’r swydd, ac yn falch o allu parhau i wasanaethu ei gymuned yn ystod yr adegau anodd.