Newyddion S4C

'Angen ymchwiliad pellach' i farwolaethau dau yn Hirwaun

28/02/2025
Stryd Fawr Hirwaun
Stryd Fawr Hirwaun

Clywodd cwest y bydd angen ymchwiliad pellach i achos marwolaeth dau o bobl y cafwyd hyd iddynt mewn pentref yn y de.

Cafodd cyrff Natalie Jones, 39 oed, a Jonathan Williams, 47 oed, eu darganfod mewn ar Stryd Fawr Hirwaun am tua 17.45 ar 21 Chwefror.

Cafodd cwest ei agor i'w marwolaethau yn Llys Crwner De Cymru ddydd Gwener.

Clywodd y crwner cynorthwyol, Kerrie Burge, fod achos y marwolaethau yn “ansicr” a bod angen ymchwiliad pellach gan y patholegydd.

Dywedodd cynorthwyydd y crwner fod plismyn wedi gorfod torri i mewn i'r ar ôl i deulu Ms Jones fethu cysylltu gyda hi am bythefnos.

Ychwanegodd fod “paraphernalia cyffuriau yn bresennol” yno.

Dywedodd Ms Burge fod lle i amau ​​bod y marwolaethau yn “annaturiol” a bod angen cwest.

Wrth ohirio'r cwest i ymchwiliadau gael eu cwblhau, cynigiodd Ms Burge ei chydymdeimlad i deuluoedd Ms Jones a Mr Williams.

Mewn teyrnged ar ôl ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Jones: “Mae ein teulu wedi ei ddryllio oherwydd colli Natalie.

“Roedd hi’n ferch, chwaer, mam a ffrind annwyl ac yn berson cynnes, cariadus a thosturiol a ddaeth â llawenydd a haelioni i gymaint.

“Bydd hi’n cael ei chofio am byth.”

 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.