
Campws Prifysgol Llanbed 'ddim yn cau' medd is-ganghellor
Mae Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi wfftio unrhyw awgrymiadau bod campws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan i gau.
Dywedodd yr Athro Elwen Evans hefyd mewn cyfweliad gyda'r BBC nad oedd bwriad i gau pynciau na chyrsiau yn y brifysgol.
Daw ei sylwadau yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn y dref nos Iau i drafod dyfodol campws Prifysgol Llanbedr.
Fis diwethaf, daeth cyhoeddiad y bydd cyrsiau’r Adran Ddyniaethau ym Mhrifysgol Llanbed yn cael eu symud i Gampws Caerfyrddin.
Cafodd y cyfarfod cyhoeddus ei gadeirio gan Elin Jones AS, ac roedd tua 300 o bobl yno.
Yn siarad am y tro cyntaf ers cyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd yr Athro Elwen Evans bod prifysgolion yn “wynebu argyfwng”.
Roedd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau i’r is ganghellor ynghylch dyfodol y campws.
Dywedodd rhai eu bod yn teimlo mai’r cynlluniau i symud cyrsiau’r Adran Ddyniaethau oedd ‘hoelen olaf yn yr arch’ i gampws Llanbedr.
“Dwi ddim yn derbyn hynny” meddai’r Is-Ganghellor.

Ar 23 Ionawr, cadarnhaodd Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Peter Mannion, y penderfyniad i symud cyrsiau presennol a dyfodol y Dyniaethau i gampws Caerfyrddin o fis Medi 2025.
Mewn ymateb i’r pryderon fod y cyfarfod wedi cael ei drefnu fisoedd ar ôl y cyhoeddiad cyntaf bod newidiadau yn mynd i ddigwydd i gampws Llanbed, dywedodd Yr Athro Elwen Evans nad ydi hi’n meddwl bod y pryderon yn “deg”.
“Da ni wedi bod yn trafod efo’r staff a’r myfyrwyr, ond mae prifysgolion yn atebol i’w cynghorau, i’r staff ac i’r myfyrwyr - dyna’r drefn, ac mae rhywun yn ehangu ar y drafodaeth wedyn.
“A ‘da ni wedi bod yn barod … a dwi ddim yn meddwl bod rhywun yn awgrymu y dylai na gyfarfod cyhoeddus fod yn gynt ddim yn hollol deg oherwydd rhywbeth ‘da ni wedi’i gynnig ydi hyn, sydd ddim yn rhan o drefn rheolaeth prifysgolion.”
Prifysgol neu beidio?
Ni fydd cyrsiau israddedig yn cael eu cynnig ar gampws Llanbed bellach, ac felly mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â ellid ei galw’n ‘brifysgol’ mwyach.
“Mae’n dal yn rhan o’r brifysgol” meddai, “a mi fyddwn ni’n edrych yn bositif iawn i sicrhau ein bod ni’n cael y gwahanol bethau’n digwydd, cyrsiau byr hwyrach, ond pethe sy’n delio efo gofynion addysg uwch."
Eglurodd mai’r cynlluniau ar gyfer y brifysgol oedd iddi “aros yn agored”, a “gwahodd pobl i fod yn rhan o’r grŵp cynllunio, a chael y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth”.
Dywedodd y bydd y myfyrwyr yn symud i Gaerfyrddin erbyn mis Medi, “wrach fydd rhai yn dal i fyw yma”.
“Mi fedran nhw wneud defnydd o’r asedau sydd yma, er enghraifft y llyfrgell”.
Pan ofynnwyd iddi a fydd unrhyw doriadau i gyrsiau neu ddiswyddiadau, dywedodd: “Na, yn blwmp ac yn blaen, ‘da ni ddim yn sdopio dim byd, ‘da ni ddim yn chau campws Llanbed na cau cyrsiau, ‘da ni ddim yn edrych ar gau pynciau.”