Newyddion S4C

Ffermwr o Fôn wedi claddu car a gafodd ei ddefnyddio wrth ddwyn o dŷ gwraig weddw

Llys Caernarfon

Fe wnaeth ffermwr o Fôn gladdu car a ddefnyddiwyd gan ei gyn-bartner a pherson arall wrth ddwyn o dŷ gwraig weddw, clywodd llys ddydd Iau.

Fe wnaeth Ieuan Parry, 28, o Lanbabo, Ynys Môn, gyfaddef iddo gynorthwyo troseddwr.

Cafodd cyn bartner Ieuan Parry, Billie Jo Kane, 27 oed, o Lanbedrgoch ei charcharu am 30 mis yn Hydref 2023 ar ôl cyfaddef i’r fyrgleriaeth a wnaeth "chwalu" cartref dynes o Ynys Môn oedd yn ei 80au.

Roedd llun o’i diweddar ŵr a’i diweddar fab ymhlith eitemau'r ddynes oedrannus a gafodd eu dwyn.

Clywodd y llys bod Ieuan Parry wedi defnyddio tractor i symud y car Toyota a gafodd ei ddefnyddio yn ystod y fyrgleriaeth.

Ddydd Iau, cafodd Parry ddedfryd o 16 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis.

Fe fydd yn rhaid iddo hefyd dderbyn adferiad (rehabilitation).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.