Newyddion S4C

Heddlu Dyfed-Powys i gau pum gorsaf yr heddlu yn ardal y llu

27/02/2025
Cruchywel

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod am gau a gwerthu gorsafoedd heddlu Llanymddyfri, Crucywel, Arberth, Y Gelli Gandryll a Llanfyllin.

Dywed y llu y bydd adeilad hen orsaf heddlu Llandeilo yn cael ei werthu hefyd fel rhan o gynllun ehangach i arbed £10m dros dair blynedd.

Bydd swyddogion yn symud i ganolfannau newydd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTADC). 

Mewn datganiad , dywedodd y llu: "Mae’r penderfyniad hwn yn rhan o raglen newid fwy ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau a thechnoleg a’r cit sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i’n cymunedau.

"Bydd cydweithio â GTACGC yn golygu y gall Heddlu Dyfed-Powys barhau i sicrhau presenoldeb gweladwy ac ymgysylltu effeithiol â thrigolion lleol a busnesau yn y trefi."

Gwerthusiad gofalus

Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Mae’r penderfyniad hwn wedi dod ar ôl gwerthusiad gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

“Mae cau a gwerthu’r gorsafoedd heddlu hyn yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithlon ac effeithiol.

“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud gyda budd gorau’r trethdalwyr a’r gymuned mewn golwg, gan nad yw’r gorsafoedd presennol yn bodloni gofynion plismona modern a’u bod yn ddrud i’w rhedeg.

“Bydd eich timau plismona bro ac atal lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb gweladwy ac ymgysylltu effeithiol â thrigolion a busnesau.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Mae trafodaethau ynghylch gorsafoedd heddlu’n cau neu’n cael eu gwerthu, yn y gorffennol, wedi tanio pryderon am welededd yr heddlu, amseroedd ymateb, a diogelwch cymunedol. Rwy’n deall y pryderon hynny’n llwyr.

“Fodd bynnag, mae’r Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis wedi fy sicrhau na fydd y penderfyniad ystadau hwn yn effeithio ar lefel y gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd.

“Er nad yw’r newidiadau hyn yn hawdd, rwyf am fod yn glir - nid yw ein hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd wedi newid. Mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â sicrhau y gall Heddlu Dyfed-Powys weithredu mor effeithlon â phosibl, gan sicrhau bod swyddogion ac adnoddau yn y lleoedd cywir i wasanaethu ein cymunedau'n effeithiol."

Ychwanegodd: “Mewn byd cynyddol ddigidol, mae mwy o ffyrdd nag erioed bellach i bobl gadw mewn cysylltiad â Heddlu Dyfed-Powys. 

"Ochr yn ochr â chyswllt ffôn traddodiadol, rwy’n annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Heddlu, sy’n cynnig diweddariadau pwysig, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd i ymgysylltu."

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.