Newyddion S4C

Teyrnged i bennaeth ‘angerddol’ ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd

27/02/2025
Yr ysgol

Mae ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i brifathro “angerddol” yn dilyn ei farwolaeth.

Roedd Mr Dylan Hughes wedi gwasanaethau fel pennaeth Ysgol Gymraeg Nant Caerau am dros 14 o flynyddoedd.

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion ar ddydd Llun, a bydd cymorth ar gael i'r disgyblion yn yr ysgol pan fyddant yn dychwelyd ar ddydd Mawrth.

Mewn teyrnged dywedodd y dirprwy bennaeth Mrs Hughes Jones ei fod yn “yn arweinydd eithriadol ond fentor i lawer ac yn ffrind i bawb”.

“Bu ei ymrwymiad i sicrhau lles pob aelod o gymuned yr ysgol a'i waith i feithrin y potensial ym mhob disgybl yn gadael olion na ellir eu disodli ar ein hysgol,” meddai.

“Roedd ei gyfraniad tuag at addysg Gymraeg ar draws Caerdydd yn angerddol a bydd hwn yn parhau i effeithio ar y cyfleoedd i blant am flynyddoedd i ddod.

“Rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'w deulu a'i anwyliaid yn ystod yr amser anodd hwn. 

“Byddwn yn anrhydeddu ei etifeddiaeth drwy barhau â'i weledigaeth ar gyfer yr ysgol a chefnogi ein gilydd fel cymuned.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.