Newyddion S4C

Yr actor Gene Hackman a'i wraig wedi eu darganfod yn farw

27/02/2025
Gene Hackman a Betsy Arakawa

Cafodd yr actor Gene Hackman a'i wraig Betsy Arakawa eu darganfod yn farw yn eu cartref brynhawn dydd Mercher yn nhalaith Mecsico Newydd, meddai swyddfa sheriff Santa Fe.

Roedd Gene Hackman, a gipiodd Oscar am ei ran yn y ffilm The French Connection yn 1972, yn 95 oed.

Roedd ei wraig, oedd yn bianydd clasurol, yn 63 oed. 

Cafwyd hyd i'w ci yn farw yn eu cartref hefyd medd yr heddlu.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Gallwn gadarnhau bod Gene Hackman a’i wraig wedi’u canfod yn farw brynhawn dydd Mercher yn eu cartref ar Sunset Trail.

“Mae hwn yn ymchwiliad gweithredol - ond, ar hyn o bryd nid ydym yn credu bod trosedd yn ffactor.”

Cafodd Hackman eni yng Nghaliffornia ym 1930, ac fe adawodd ei gartref yn 16 oed i ymuno gyda'r fyddin gan wasanaethodd rhwng 1947 a 1952 fel swyddog radio ac yna fel newyddiadurwr darlledu.

Aeth ymlaen i astudio newyddiaduraeth a chynhyrchu teledu ym Mhrifysgol Illinois, ond yn ddiweddarach fe drodd i ddilyn gyrfa ym myd actio.

Derbyniodd Mr Hackman ddau dlws yr Oscars a dwy wobr Bafta yn ystod ei yrfa actio oedd wedi para am ddegawdau.

Daeth i amlygrwydd ar ôl actio'r cymeriad Buck Barrow yn y ffilm Bonnie and Clyde yn 1967 - ac fe dderbyniodd enwebiad am Oscar am ei berfformiad.

Cipiodd ei Oscar cyntaf ar ôl dod i'r brig yng nghategori'r actor gorau yn 1972 am ei rôl yn portreadu'r Ditectif Jimmy “Popeye” Doyle yn The French Connection.

Enillodd Hackman Oscar arall yn y categori actor cefnogol gorau yn 1992 am ei ran yn y ffilm Unforgiven, gafodd ei chyfarwyddo gan Clint Eastwood.

Roedd yn enwog am actio cymeriad Lex Luthor yn ffilmiau Superman o'r 1970au a'r 80au, ac am ei ran yn y ffilm Mississippi Burning.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.