Tri dyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad â chyllell yng Nghaerdydd
26/02/2025
Mae tri dyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad â chyllell yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Salisbury am 23.30 nos Fawrth 25 Chwefror yn dilyn yr ymosodiad.
Mae un person yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae heddlu wedi cau y lleoliad gyda cordon, yn agos i'r bar Gassy's.
Mae unrhyw un oedd yn y lleoliad o gwmpas 23.30 nos Fawrth wedi eu hannog i gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500062136.