Newyddion S4C

Dynes wedi marw wedi digwyddiad ar fferi o Abergwaun i Rosslare

Rosslare

Mae dyn wedi ei arestio wedi i ddynes farw ar fferi a deithiodd o Abergwaun i Rosslare yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd heddlu Iwerddon eu bod nhw’n ymdrin â “digwyddiad difrifol” ar fferi Stena Nordica.

Mae gwasanaeth fferi 19.30pm o Rosslare a fferi 1.30 o Abergwaun wedi'u canslo.

Dywedodd y Gardai eu bod nhw’n ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ac nad oes unrhyw berygl i’r cyhoedd.

“Mae Gardai yn Wexford yn ymchwilio wedi marwolaeth dynes ar ôl digwyddiad ar fferi ar y ffordd i Rosslare, Co. Wexford heno," meddai'r Gardai.

"Cafodd y Gardai a'r gwasanaethau brys wybod am y digwyddiad toc wedi 17.00 ac fe wnaethon ni fynd ar fwrdd y llong sydd wedi'i docio yn Harbwr Rosslare ar hyn o bryd. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd bod dynes wedi marw ac mae ei chorff yn parhau yn y fan a'r lle.

“Cafodd dyn ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ac mae’n cael ei gadw ar hyn o bryd o dan Adran 4 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1984 mewn Gorsaf Garda yn Rhanbarth y Dwyrain."

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Stena Line fod y digwyddiad wedi digwydd ar y fferi am 14.00 o Abergwaun i Rosslare.

Ychwanegodd y llefarydd: “Mater i’r heddlu yw hwn, felly cyfeiriwch bob cwestiwn pellach at y Gardai.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.