Buddsoddi £600m mewn dau gwmni sy'n gobeithio adeiladu 10 fferm wynt yng Nghymru
Mae dau gwmni sydd yn gobeithio adeiladu 10 o ffermydd gwynt mawr ar draws Cymru wedi derbyn hwb ar ôl derbyn buddsoddiad o £600 miliwn o gronfa egni adnewyddol.
Daw’r buddsoddiad gan gwmni Copenhagen Infrastructure Partners (CIP), sy’n prynu cyfrannau yn y cwmnïau sy’n gobeithio adeiladu’r ffermydd gwynt, Bute Energy a Green GEN Cymru.
Mae’r prosiectau yn cynnwys fferm wynt Twyn Hywel yn ardal Senghennydd, a wnaeth dderbyn caniatâd cynllunio y llynedd, a fydd yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi 81,000 o gartrefi pan fydd wedi’i chwblhau.
Mae naw fferm wynt arall yn aros am ganiatâd cynllunio. Pe baent yn cael eu cymeradwyo, fe fyddent yn ffurfio rhan o bortffolio o ffermydd ynni gwynt wedi eu hadeiladu ar y tir gwerth £3 biliwn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, ei fod yn “fuddsoddiad sylweddol ac yn dangos hyder” yng nghynlluniau ynni glân y Llywodraeth.
Pe bai pob fferm wynt yn cael eu caniatáu, bydd portffolio cyfan Bute Energy o brosiectau ynni yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 2.25 miliwn o gartrefi erbyn 2030.
'Adlewyrchu ein hyder'
Daw wedi i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni gwynt a solar i wneud y DU yn llai dibynnol ar brisiau nwy byd-eang.
Bwriad y polisi yw lleihau allyriadau carbon o'r grid pŵer o 95% erbyn diwedd y degawd hwn.
Dywedodd Nischal Agarwal, partner yn CIP, fod y buddsoddiad yn “adlewyrchu ein hyder yn y sector adnewyddadwy yng Nghymru i ddarparu seilwaith sydd wir ei angen i gartrefi a busnesau Cymru, i chwarae rhan lawn wrth gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy cenedlaethol”.
Dywedodd Bute Energy a Green GEN Cymru fod eu prosiectau yn ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i holl ddefnydd trydan y wlad ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae prosiectau Bute Energy yn anelu i gyrraedd 25% o’r targed hwn. Yn ôl penaethiaid y cwmni, fe allai’r datblygiadau greu hyd at 2,000 o swyddi.
Ychwanegodd rheolwr gyfarwyddwr Bute Energy, Stuart George, fod y cwmni’n gobeithio cael chwech o’r prosiectau ar “ddesg Ysgrifennydd y Cabinet” i’w penderfynu erbyn yr haf yma.