Teyrnged teulu i fam o'r cymoedd ar ôl marwolaethau sydd 'heb eu hesbonio'
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fam o'r cymoedd ar ôl marwolaethau 'heb eu hesbonio.'
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaethau dyn 47 oed a dynes 39 oed wedi i'w cyrff cael ei darganfod ar Stryd Fawr Hirwaun tua 17:45 ddydd Gwener ddiwethaf.
Fe fydd postmortem y ddau yn cael ei gynnal ddydd Mercher.
Mewn teyrnged dywedodd teulu Natalie Jones, y ddynes 39 oed fu farw, ei bod yn berson "trugarog a chariadus."
"Mae ein calonnau wedi torri wrth golli Natalaie," medden nhw.
"Roedd hi'n chwaer, merch, mam a ffrind annwyl oedd yn garedig, cariadus a thrugarog ac a oedd yn dod a llawenydd i gymaint o bobl.
"Bydd hi'n cael ei chofio am byth."
Ychwanegodd y teulu eu bod yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i'r gymuned am ei amynedd tra bod swyddogion yn cynnal ymholiadau.