Athrawon mewn un sir yng Nghymru wedi colli dros 1,700 o ddiwrnodau i straen
Mae athrawon mewn un sir yng Nghymru wedi colli dros 1,700 o ddiwrnodau o'r gwaith yn sâl y llynedd oherwydd straen.
Daeth y wybodaeth i’r amlwg yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) i Gyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd Sir Ddinbych fod nifer y diwrnodau salwch a gafodd eu categoreiddio o dan “Straen, Iselder, Gorbryder, a Blinder Iechyd Meddwl” yn 1,726.8 (cyfwerth ag 15,802.47 diwrnod llawn amser).
Yn ôl gwefan y cyngor, mae gan Sir Ddinbych gyfanswm o 58 o ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r ffigwr felly yn cyfateb i 29.7 diwrnod i ffwrdd y flwyddyn i bob ysgol.
Dywedodd arweinydd y grŵp annibynnol ar y cyngor y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts: “O ystyried, mae’n debyg nad yw’r ffigurau hyn yn syndod.
"Mae faint o bwysau sydd ar staff ac athrawon yn yr ysgol ar hyn o bryd - ar ôl gweld gwahanol anghenion yn dod drwodd ar ôl COVID, gyda phlant ifanc yn arbennig - (yn golygu) bod llawer o blant yn gorfod addasu.”
Er nad yw adran addysg y cyngor wedi gweld toriadau yn y gyllideb sydd i ddod, y llynedd fe dorrodd Sir Ddinbych gyllidebau ysgolion 3%.
Mae hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â salwch sy’n gysylltiedig â straen, heb ystyried anhwylderau eraill mwy corfforol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts: “Mae hyn yn rhywbeth y byddwn i’n disgwyl i Lywodraeth Cymru edrych arno a cheisio cefnogi ysgolion.”
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru wedi cael cais am eu sylwadau.