Elusen yn galw ar feddygfeydd i roi presgripsiwn i redeg
Fe ddylai meddygon teulu rhoi presgripsiynau i bobl cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol i redeg mewn parc, medd elusen.
Mae Parkrun UK yn elusen sydd yn gyfrifol am gynnal digwyddiadau o’r fath ar hyd a lled y Deyrnas Unedig – gyda channoedd ar filoedd o bobl yn cymryd rhan mewn ras 5km yn eu parc lleol bob penwythnos.
Maen nhw’n cydweithio gyda meddygon teulu sydd eisoes yn rhoi “presgripsiynau cymdeithasol” i gleifion er mwyn iddyn nhw gymryd rhan yn yr her wythnosol.
Ond mae’r elusen bellach yn dweud y dylai’r gwasanaeth iechyd cyfan rhoi presgripsiynau o’r fath hefyd.
Trwy gydweithio gyda Choleg Brenhinol Meddygon Teulu (RCGP), mae bron i 2,000 o feddygfeydd bellach yn rhoi presgripsiynau ar gyfer ‘parkruns’ yn rheolaidd.
Mae Parkrun UK yn dweud pe bai rhagor o feddygfeydd yn gwneud hefyd, fe allai llai o bwysau fod ar wasanaethau iechyd.
“Mae cymryd rhan mewn 'parkrun', petai’n cerdded, rhedeg, gwirfoddoli neu jyst mynd i’ch parc lleol yn yr awyr agored yng nghwmni pobl eraill yn ffordd arbennig i bobl wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd corfforol a meddyliol,” meddai’r prif weithredwr Russ Jefferys.
Roedd 65% o 2,000 o bobl a gafodd eu holi wedi dweud eu bod nhw’n cytuno y dylai meddygfeydd rhoi presgripsiynau ar gyfer heriau ‘parkrun’, yn ôl arolwg gan YouGov.
Dywedodd cadeirydd RCGP, Kamila Hawthorne bod meddygon teulu yn trafod gyda’u cleifion yn aml am y newidiadau fe allan nhw eu gwneud er mwyn gwella eu lles ac iechyd.
“Mae cymryd rhan mewn ‘parkrun’ yn creu cyfleoedd i bobl fynd tu allan ac ymarfer corff – beth bynnag yw eu lefel ffitrwydd – gan gwrdd â phobl a chael hwyl.”
Llun: Victoria Jones/PA Wire