Newyddion S4C

'Gêm anodd': Cymru yn croesawu Sweden i Wrecsam

Cymru - Carrie Jones

Bydd Cymru’n croesawu Sweden i’r Cae Ras yn Wrecsam nos Fawrth gan anelu am eu buddugoliaeth gyntaf o’r ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd.

Fe wnaeth tîm Rhian Wilkinson berfformio’n dda yn eu gêm gyntaf yng nghynghrair A nos Wener, ond colli 1-0 oddi cartref yn erbyn Yr Eidal – y tîm sy’n 13eg yn y byd – oedd eu hanes yn y pen draw.

Ac fe fydd safon y gwrthwynebwyr hyd yn oed yn uwch nos Fawrth wrth i Gymru herio Sweden – y tîm a orffennodd yn drydydd yng Nghwpan y Byd 2023, a sydd yn bumed ar restr detholion y byd ar hyn o bryd.

Er gwaethaf ei rhwystredigaeth o golli yn Monza, roedd Wilkinson yn “falch” o ymdrech ei chwaraewyr yn eu gêm gyntaf.

Ond mae wedi rhybuddio ei thîm y bydd angen codi safon eu perfformiad yn uwch eto os am iddyn nhw sicrhau canlyniad yn erbyn y cewri o Sgandinafia.

“Mae pob gêm yng Nghynghrair A yn mynd i fod yn brofion ffantastig. Mae Sweden yn dîm da iawn, ac yn gryf mewn sawl ardal.

“Bydd yn rhaid i ni, nid yn unig rhoi perfformiad tebyg i’r un yn erbyn Yr Eidal, ond codi’r lefel unwaith eto yn erbyn Sweden.”

Fe fydd y capten arferol Angharad James yn arwain y tîm yn Wrecsam wedi i Hayley Ladd dderbyn yr anrhydedd yn erbyn Yr Eidal, wrth iddi ennill cap rhif 100.

Fe ddaeth yr amddiffynwraig Everton y 10fed chwaraewr benywaidd o Gymru i gyrraedd canrif o gapiau.

Dywedodd y capten, Angharad James: “Hoffwn longyfarch Hayley ar ennill ei chanfed cap, mae’n rhywbeth anhygoel i gyflawni. Mae hi’n arweinydd gwych o fewn ein grŵp.

“Rydym yn gwybod bod Sweden yn dîm da iawn, mae lot o’r genethod yn chwarae pob wythnos yn erbyn nhw, felly da ni’n nabod nhw’n dda. 

“Fydd e’n gêm anodd, ond un rydym yn edrych ymlaen ato.

Bydd uchafbwyntiau estynedig o’r gêm i’w gweld ar S4C am 22.00 ar nos Fawrth.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.