Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ferch dair oed fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng tram a fan

Lulu

Mae teulu merch tair oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng fan a thram wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Louisa Palmisano (Lulu), o Burnley, Sir Caerhirfryn, yn cerdded ar Mosley Street, Manceinion pan darodd y fan y tram ac yna’r pafin tua 10.00 ddydd Sadwrn.

“Mae ei habsenoldeb wedi gadael bwlch ofnadwy yn ein teulu,” meddai ei rhieni. 

"Hi oedd ein hunig blentyn, ein byd i gyd. 

“Roedden ni’n mwynhau diwrnod allan hapus i'r teulu pan ddigwyddodd y trasiedi erchyll hwn.

“Mae’r boen o’i cholli yn annioddefol, ac rydyn ni’n ei cholli hi’n fwy nag y gall geiriau byth ei fynegi.”

Dywedodd Heddlu Manceinion (GMP) fod dyn 36 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Cafodd Lulu ei chludo i’r ysbyty ond bu farw yn fuan wedyn.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Andrew Page, o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yr heddlu: “Mae’r teulu’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ac wedi gofyn i’r cyhoedd a’r wasg barchu eu preifatrwydd ar hyn o bryd.

“Rydym wedi arestio rhywun ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

“Mae hwn yn ymchwiliad gweithredol o hyd, ac rydym yn edrych am unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r achos i ddod ymlaen i gysylltu â ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.