Plentyn gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei frathu gan gi
Mae plentyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei frathu gan gi yn Sir Benfro.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Stryd Bush yn Noc Penfro am tua 18:50 nos Sadwrn wedi adroddiadau fod ci wedi brathu plentyn.
Dioddefodd y plentyn anafiadau a bu rhaid ei gludo i'r ysbyty.
Mae'r plentyn yn parhau yn yr ysbyty ddydd Llun.
Cafodd y ci ei ddifa ers y digwyddiad.
Mae menyw 42 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fod yng ngofal ci peryglus oedd allan o reolaeth gan achosi anaf.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu hymchwiliad ac ymholiadau yn parhau ac yn gofyn i bobl beidio â dyfalu am amgylchiadau'r digwyddiad.