Newyddion S4C

Cynlluniau i adfer hen bwll glo a chreu tirwedd mwy 'naturiol'

Cynllun Ffos-y-Fran

Mae cynlluniau ar gyfer adfer hen bwll glo ym Merthyr wedi eu datgelu.

Mae’r ymgeisydd Merthyr (South Wales) Ltd wedi gwneud cais am gynllun diwygiedig ar gyfer adfer 285 hectar o dir a fu’n rhan o’r gwaith cloddio ym mwll glo Ffos-y-Frân.

Fe gafodd Ffos-y-Frân ei chau yn Nhachwedd 2023 ar ôl i Gyngor Sirol Merthyr Tudful wrthod cais i ymestyn i barhau i weithredu yno.

Fe wnaeth gwaith yn y pwll barhau heb ganiatâd cynllunio wedi Medi 2022, sef y dyddiad cau gwreiddiol. 

Image
Ffos y Fran
Bydd y cynllun yn adfer safle sydd 285 hectar mewn maint (Lluniau: Merthyr (South Wales) Ltd.)

Fe wnaeth hynny arwain at hysbysiad gorfodol yn cael ei rhoi cyn i’r dyddiad terfynol o gau’r pwll gael ei osod am 30 Tachwedd 2023.

Fe wnaeth y pwll glo gynhyrchu 11 miliwn o dunelli o lo rhwng 2007 a 2023.

Yn ôl yr ymgeiswyr, bydd y cais yn ceisio dull mwy cynaliadwy o adfer y tir, gan obeithio creu “tirwedd fwy bioamrywiol a naturiol".

Dywedwyd fod ardaloedd o’r safle eisoes wedi eu hadfer yn naturiol drwy beidio cael eu defnyddio, a bod yna arwyddion o natur yn ail-ddatblygu mewn mannau.

Lluniau: Merthyr (South Wales) Ltd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.