'Arian am gefnogi Rwsia': Cyn-arweinydd Reform yng Nghymru o flaen llys
Mae cyn-arweinydd plaid Reform yng Nghymru, Nathan Gill, wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o dderbyn arian yn gyfnewid am wneud datganiadau ffafriol am Rwsia yn Senedd Ewrop.
Fe ymddangosodd Mr Gill, 51, o Langefni yn Ynys Môn o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Llun.
Roedd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd tan 2020 ac fe wnaeth gynrychioli gogledd Cymru yn y Senedd rhwng 2016 a 2021.
Clywodd Llys Ynadon San Steffan honiadau fod Gill wedi gwneud datganiadau yn Senedd Ewrop ac mewn darnau barn i wasanaethau newyddion fel 112 Wcráin, a oedd yn “gefnogol i naratif penodol” a fyddai “o fudd i Rwsia ynglŷn â digwyddiadau yn Wcráin”.
Mae wedi ei gyhuddo o un achos o gynllwynio i lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977, ac o wyth achos o lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010.
Honnir bod y diffynnydd wedi cael y dasg gan y newyddiadurwr a gwleidydd Oleg Voloshyn ar o leiaf wyth achlysur i wneud datganiadau penodol yn gyfnewid am arian.
Yn ystod y gwrandawiad ddydd Llun, siaradodd Nathan Gill i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad yn unig ac ni chyflwynwyd unrhyw ble i’r cyhuddiadau.
Plaid Brexit
Cafodd Nathan Gill fechnïaeth ar yr amod ei fod yn ildio ei basbort, i beidio â chael dogfennau teithio rhyngwladol ac i beidio â chysylltu â Voloshyn, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn yr Old Bailey ar 14 Mawrth.
Cafodd Mr Gill ei stopio ym Maes Awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019, clywodd y llys.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod cyhuddiadau wedi eu hawdurdodi yn erbyn Voloshyn ond nad yw o fewn awdurdodaeth y llys.
Cafodd Nathan Gill ei ethol yn Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP am y tro cyntaf yn 2014 ac ymunodd â'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y'i gelwid bryd hynny, yn 2016.
Roedd yn arweinydd UKIP dros Gymru a bu’n annibynnol am gyfnod byr cyn ymuno â Phlaid Brexit yn 2019.
Aeth ymlaen wedyn i i arwain ymgyrch Reform UK yn Etholiad Senedd Cymru yn 2021 cyn ymddiswyddo o’i rôl yn fuan wedyn.