Pab Ffransis yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol
Mae'r Pab Ffransis wedi cael noson "heddychlon" mewn ysbyty yn Rhufain, ond mae e'n dal i fod mewn cyflwr difrifol, medd y Fatican.
Dirywiodd ei gyflwr ddydd Gwener, ac mae e wedi cael trallwysiad gwaed, wrth iddo barhau i gael trafferthion anadlu.
Mae'r Pab 88 oed yn cael triniaeth ar gyfer niwmonia yn ysbyty Gemelli yn Rhufain.
Yn ôl y Fatican, mae arweinydd yr Eglwys Gatholig yn eistedd mewn cadair freichiau ond mae e angen "llif uchel o ocsigen".
Mae'r perygl i'w iechyd yn parhau, medd datganiad gan y Fatican.
Yn ystod ei gyfnod o 12 mlynedd yn arwain yr Eglwys Gatholig, mae'r Pab Ffransis, sy'n dod o'r Ariannin, wedi cael triniaeth mewn ysbyty droeon.
Ym mis Mawrth 2023, treuliodd dair noson mewn ysbyty oherwydd broncitis.