Newyddion S4C

Canslo'r gyfres teledu Neighbours am yr ail waith

Neighbours

Mae'r gyfres teledu boblogaidd Neighbours wedi'i chanslo am yr ail waith.

Dywedodd datganiad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Neighbours y byddai pennod olaf y gyfres 40 oed yn cael ei darlledu ym mis Rhagfyr 2025.

Roedd y cwmni cynhyrchu Fremantle Media wedi methu â sicrhau cytundeb newydd gydag Amazon yn ôl adroddiadau.

Daw'r newyddion ddwy flynedd ar ôl i gwmni Amazon adfywio'r gyfres ar ei blatfform ffrydio ar ôl iddi gael ei chanslo gan Channel 5.

Dywedodd y cynhyrchydd gweithredol Jason Herbison: "Mae cynulleidfaoedd ledled y byd wedi caru a chofleidio Neighbours ers pedwar degawd ac rydym yn falch iawn o’r llwyddiant ysgubol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Wrth i’r bennod hon ddod i ben, rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn diolch i Amazon MGM Studios am bopeth maen nhw wedi’i wneud i Neighbours – gan ddod â’r gyfres eiconig hon i gynulleidfaoedd newydd yn fyd-eang."

Ychwanegodd: "Rydyn ni’n gwerthfawrogi cymaint mae’r cefnogwyr yn caru Neighbours ac rydyn ni’n credu bod mwy o straeon am drigolion Ramsay Street i’w hadrodd yn y dyfodol."

Mae'r opera sebon yn dilyn bywydau trigolion Erinsborough, maestref ffuglennol ym Melbourne.

Fe ddaeth helyntion cymeriadau fel Charlene a Scott Robinson ag enwogrwydd byd-eang i'r actorion Kylie Minogue a Jason Donovan yng nghanol 80au'r ganrif ddiwethaf, gyda 22 miliwn yn gwylio eu priodas ar y sgrin fach yn y DU ag Awstralia.

Yn 2022, cafodd y gyfres ei chanslo gan Channel 5 ar ôl iddyn nhw fethu â sicrhau cyllid.

Ychydig fisoedd ar ôl yr hyn a oedd i fod ei phennod olaf, cafodd y gyfres ei hadfywio gan Amazon Freevee a Fremantle.

Llun: PA

 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.