Newyddion S4C

Arestio dynes sy'n honni mai hi yw Madeleine McCann ynghyd â chyfaill o Gaerdydd

Julia

Mae dynes o Wlad Pwyl sydd yn honni mai hi yw Madeleine McCann wedi cael ei harestio ym maes awyr Bryste, ynghyd â chyfaill iddi o Gaerdydd.

Cafodd Julia Wandelt, 23, ynghyd â'r Gymraes 60 oed eu harestio ar amheuaeth o stelcian gan achosi braw a gofid difrifol.

Cafodd Wandelt ei harestio ar ôl glanio yn y maes awyr ar 19 Chwefror.

Mae hi wedi honni'n flaenorol mai hi yw'r ferch aeth ar goll ym Mhortiwgal ym mis Mai 2007.

Roedd hi hefyd wedi dweud mewn neges ar gyfyngau cymdeithasol ei bod wedi gwneud prawf DNA - ond dangosodd canlyniadau'r prawf hwnnw mai Pwyles yw hi.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan ei bod yn gwadu'r honiadau yn ei herbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerlŷr: “Cafodd dwy ddynes eu harestio ym Maes Awyr Bryste fel rhan o ymchwiliad parhaus.

"Cafodd dynes 23 oed o Wlad Pwyl a dynes 60 oed o Gymru eu harestio ar amheuaeth o stelcian yn ymwneud â braw/gofid difrifol. 

"Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa ac mae ymholiadau'n parhau."

Llun: help-for-julia-wandelt/gogetfunding

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.