Adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd i wasanaethu datblygiad tai
Bydd ysgol Gymraeg newydd yn cael ei hadeiladu ar gyfer datblygiad tai sylweddol yn Rhondda Cynon Taf.
Rhoddodd cynghorwyr y sir sel bendith i'r cynllun yn Llanharan mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Mae caniatad cynllun wedi ei roi ar gyfer 1,850 o dai newydd ar hen safle glo brig yn ardal Llanhilid, a'r bwriad yw i'r ysgol gynradd newydd wasanaethu'r gymuned yno. Bydd Ysgol Dolau, sy'n ysgol ddwyieithog ar hyn o bryd, yn cael ei throi'n'n ysgol cyfrwng Saesneg.
Bydd gan yr ysgol newydd le i 480 o ddisgyblion, a 60 o blant meithrin. Clywodd y cyfarfod fod 50 o'r 99 o bobl oedd wedi ymateb i ymgynghoriad o blaid y cynllun, gyda 37 yn erbyn.
Bydd cost adeiladu'r ysgol newydd yn dod o gyfraniad ariannol gan ddatblygwr y safle a Rhaglen Addysg Cymunedau Cynaladwy Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Rhys Lewis fod y cynllun yn un "hynod o gyffrous ac uchelgeisiol."
Ychwanegodd fod y cynllun yn ran o strategaeth i gynyddu'r capasiti ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y bwriad yw i'r ysgol newydd agor yn 2027.