Newyddion S4C

Gwrthbleidiau'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth i brifysgolion

19/02/2025
myfyrwyr prifysgol

Mae'r gwrthbleidiau wedi mynegi pryder am y toriadau sydd ar y gweill ym mhrifysgolion Bangor a De Cymru.

Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i gynorthwyo'r sector.

Wrth ymateb i'r toriadau ym Mangor, dywedod yr Aelod Senedd lleol Sian Gwenllian:" Mae'r newyddion am ddiffyg ariannol o £15 miliwn ym Mhrifysgol Bangor yn frawychus, nid yn unig i staff a myfyrwyr, ond i'r gymuned ehangach. Mae’r Llywodraeth wedi claddu eu pennau yn y tywod ers yn llawer rhy hir o ran cyllid i Addysg Uwch.

“Mae diffyg ariannol ar y raddfa hon yn newyddion hynod bryderus, nid yn unig i staff y Brifysgol a’r 10,000 o fyfyrwyr, ond i’r gymuned ehangach hefyd.

“Mae’r Brifysgol yn rhan hanfodol o’r economi leol, yn cyflogi tua 2,000 o staff, ac mae unrhyw doriadau yn mynd i gael effaith drychinebus ar fy etholaeth.

Galwodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds am adolygiad i addysg uwch a chyllido ymchwil yng Nghymru.

"O dan Llafur, rydym yn gweld toriadau o fewn sefydliadau addysg ac ymchwil yng Nghymru. Yn gyntaf, Caerdydd a Llanbed, a nawr Bangor, gyda phryder y bydd mwy yn dilyn."

Yn gynharach yr wythnos yma, cyhoeddodd y Llywodraeth £19 miliwn o gyllid ychwanegol i brifysgolion. Ond arian cyfalaf i'w ddefnyddio ar gyfer adeiladau yw hwnnw.

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am addysg uwch,Vikki Howells wedi galw ar brifysgolion i geisio osgoi colli swyddi os yn bosib, gan awgrymu defnyddio arian wrth gefn.

"Rwy'n meddwl fod e'n rhywbeth y dylai pob brifysgol ei ystyried, ac mae prifysgolion eraill wedi gwneud hynny yn y gorffennol er mwyn lleihau diswyddiadau," meddai mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C ddydd Mawrth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.