Warren Gatland wedi dechrau ‘ofni’ gemau rygbi Cymru
Mae Warren Gatland wedi dweud ei fod wedi dechrau “bod ofn” gemau rygbi Cymru yn hytrach nag edrych ymlaen atyn nhw cyn iddo adael swydd y prif hyfforddwr.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers gadael y swydd gyda phapur newydd y Telegraph, dywedodd ei fod “wrth ei fodd yng Nghymru” a bod y cefnogwyr wedi bod yn wych, ond ei fod yn teimlo “ofn (dread)” wrth hyfforddi erbyn y diwedd.
"Yn y gorffennol rydw i wedi mynd i mewn i gemau ychydig yn nerfus, ond yn gyffrous,” meddai.
“Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn mynd i mewn i gemau yn nerfus, heb deimlo'r math yna o bositifrwydd a heb gredu.
“Bron â bod ofn y gêm a'r canlyniadau a'r ymateb negyddol a fydd yn dilyn."
Dywedodd ei fod yn teimlo y bydd y “negyddiaeth” yn pylu dros yr wythnosau nesaf.
“Ydw i'n brifo ychydig? Ydw, wrth gwrs fy mod yn brifo,” meddai.
"Ond fe ddo’i dros hynny yn gyflym. Fe fyddaf i’n gallu rhoi’r teimladau negyddol i'r naill ochr ac yna edrych yn ôl ar atgofion melys iawn a dyddiau gwych yn Stadiwm Principality.
“Atgofion gwych gyda phobl anhygoel a gyda chwaraewyr gwych. Ydw, rydw i wedi aberthu llawer.
“Ond wrth edrych yn ôl, rydw i wedi caru fy amser yng Nghymru. Rydw i wedi gwneud ffrindiau gwych ac wedi cwrdd â rhai cefnogwyr anghredadwy."
'Syfrdanu'
Dywedodd ei fod wedi penderfynu cyn gêm yr Eidal y byddai yn ystyried “o ddifrif” ei sefyllfa fel hyfforddwr os nad oedden nhw’n ennill.
“Mae'n siŵr yn y gorffennol byddai wedi bod yn un o'r gemau hynny lle byddwn i wedi mynd yn hollol wallgof yn y stafelloedd newid wedyn,” meddai.
"Ond roedd y chwaraewyr yn brifo. Roedd y staff yn brifo.
"Ac rydych chi'n mynd i gynhadledd i'r wasg, ac maen nhw'n gofyn yr un cwestiynau i chi ynghylch a yw eich calon yn dal yn y swydd.
"Ar y dydd Sul yn mynd yn ôl, ges i fy syfrdanu gan faint o gefnogwyr ddaeth ataf yn y maes awyr a dweud, 'Pob lwc. Dal ati.’
“Roeddwn wedi fy syfrdanu ychydig gan hynny, a dweud y gwir. Doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Mae hynny'n gwneud i chi ail feddwl."
Ond fe ychwanegodd: “Dyna oedd y penderfyniad gorau i rygbi Cymru, yn gyntaf. Dyna oedd yn rhoi’r tîm yn gyntaf, ac yna rygbi Cymru ac yna'r penderfyniad gorau i fi.
“Roedd yn amser i gerdded i ffwrdd a rhoi ychydig o le i bawb anadlu ac i rywun arall gymryd yr awenau a thrio cael effaith.”
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans