Newyddion S4C

Cymeradwyo cynlluniau gwaith dur Tata ym Mhort Talbot

Tata Steel ym Mhort Talbot

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi sêl bendith mewn cyfarfod ddydd Mawrth i newid y ffordd mae dur yn cael ei gynhyrchu ar safle Tata y dref.

Mae Tata wedi cau ffwrneisi chwyth (blast furnaces), ac mae’n newid i ffwrneisi trydan sy’n well i’r amgylchedd, ond sydd angen llai o weithwyr, medden nhw.

Bydd bron i 2,000 o swyddi’n cael eu colli , er bod Tata a Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw’n ymrwymo i ddod o hyd i swyddi newydd i’r rhai sy’n cael eu heffeithio.

Dywedodd Rajesh Nair, prif weithredwr Tata Steel, bod y penderfyniad cynllunio yn “gam pwysig arall eto” i “sicrhau dyfodol y diwydiant dur ym Mhort Talbot”.

Ychwanegodd eu bod yn ymrwymo i ddiogelu’r diwydiant dur yn yr ardal “am genedlaethau i ddod” tra bod y farchnad fyd-eang yn parhau i fod yn heriol ar gyfer dur.

Maent yn bwriadu dechrau gwaith sylweddol ar y safle yn ystod yr haf, cyn tanio'r ffwrnais arc drydan yn 2027.

Bydd newid i ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau CO2 ar y safle o 90% o'i gymharu â gwneud dur yn y ffwrnais chwyth yn y gorffennol, meddai'r cwmni.

Mae ffwrnais fwa drydan yn defnyddio trydan i doddi dur sgrap yn bennaf, ac yn ôl Tata, mae digonedd ohono yn y DU.

Dywedodd y cwmni mai cael caniatâd cynllunio yw'r garreg filltir ddiweddaraf ar ei thaith i drawsnewidiad i wneud dur gwyrdd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: “Mae’r penderfyniad yn gam sylweddol ymlaen, gan roi mwy o sicrwydd ynghylch cynlluniau Tata ar gyfer y safle ac ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.