Newyddion S4C

Teithwyr awyren wnaeth droi ben i waered yn Toronto wedi goroesi

18/02/2025
Awyren Toronto

Mae teithwyr a chriw awyren wnaeth droi ben i waered mewn maes awyr yn Toronto, Canada wedi goroesi.

Cafodd un plentyn a dau oedolyn eu hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain, yn ôl y gwasanaethau brys. 

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn nad oes unrhyw un wedi marw ac nad yw’r anafiadau cynddrwg â’r disgwyl," meddai Deborah Flint o Awdurdod Meysydd Awyr Toronto.

Roedd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos awyren wedi troi drosodd ac yn gorwedd ar y tarmac wedi'i gorchuddio ag eira.

Dywedodd Maes Awyr Toronto Pearson fod y ddamwain yn ymwneud ag awyren Delta Air Lines oedd yn cyrraedd o Minneapolis.

O’r 80 o bobl ar yr awyren, roedd 76 yn deithwyr a phedwar yn rhan o’r criw.

Cafodd 18 o deithwyr eu cludo i'r ysbyty.

Dywedodd gwasanaeth ambiwlans awyr Ontario, Ornge, ei fod wedi anfon tri hofrennydd ambiwlans awyr a dau gerbyd ambiwlans i'r fan a’r lle.

Mae’r cleifion ag anafiadau difrifol yn cynnwys plentyn, dyn yn ei 60au a dynes yn ei 40au, ychwanegodd y gwasanaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.