Newyddion S4C

Pêl-droed: Luke Williams yn gadael Abertawe

17/02/2025

Pêl-droed: Luke Williams yn gadael Abertawe

Mae Luke Williams wedi gadael ei swydd fel rheolwr Abertawe ar ôl colli saith o'i naw gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.

Mae'n gadael gyda'r clwb yn safle 17 yn y Bencampwriaeth.

Mewn datganiad brynhawn ddydd Llun dywedodd cadeirydd y clwb, Andy Coleman bod angen newid.

“Roedd hwn yn benderfyniad anodd ac yn un sydd heb ei wneud heb lawer o ystyriaeth," meddai.

"Mae Luke wedi arwain y clwb drwy gyfnodau heriol ac rydym yn gwerthfawrogi ei waith caled.

“Rwy’n ymwybodol o’r ymdrech y mae ef a’i staff wedi’i gwneud dros y 13 mis diwethaf ar gyfer Abertawe. 

“Yn anffodus, ers troad y flwyddyn nid yw ein perfformiadau a’n canlyniadau wedi bod o’r safon ofynnol ar y lefel hon. 

"Yn y pen draw, mae hynny wedi ein harwain at ddod i’r casgliad bod angen newid er mwyn sicrhau gwelliant ar y cae."

Alan Sheehan fydd rheolwr dros dro y clwb, fel yr oedd pan gafodd Michael Duff ei ddiswyddo y llynedd.

Ychwanegodd Andy Coleman fod y broses o chwilio am reolwr newydd y clwb eisoes wedi cychwyn.

Ers dechrau 2025 mae'r Elyrch wedi colli wyth o'u gemau gan ennill un yn unig.

Colli 3-0 yn erbyn Caerdydd yn narbi de Cymru oedd un o'r wyth gêm siomedig i'r Elyrch.

Ym mis Ionawr fe wnaeth y clwb golli eu capten, Matt Grimes oedd wedi chwarae i'r clwb ers 2013, oedd yn ergyd drom i'r Elyrch.

Cafodd Luke Williams ei benodi'n rheolwr ar yr Elyrch ar 5 Ionawr 2024 wedi cyfnod yn rheoli Notts County.

Fe wnaeth y clwb orffen yn safle 14 y llynedd yn y Bencampwriaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.