Barti Ddu: Llyfrgell Genedlaethol yn prynu adroddiad am ei farwolaeth
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu adroddiad o’r 18fed ganrif am farwolaeth Barti Ddu - y môr leidr o Gymru.
Roedd Barti Ddu, sef Bartholomew Roberts, yn un o'r môr-ladron mwyaf enwog yn chwarter cyntaf y 18fed ganrif.
Ganwyd ef yn Sir Benfro tua 1682, ac yn 1718 yr oedd yn ail fêt ar y Princess, llong a gymerwyd trwy rym gan Howell Davis, môr-leidr arall o Gymru.
Bu’n rhaid i Roberts wasanaethu o dan Davis a oedd wedi ei gadw’n garcharor.
Pan laddwyd Davis fe etholwyd Roberts yn gapten y llong.
Ar ôl gyrfa dreisgar a llwyddiannus fe'i laddwyd ar 10 Chwefror 1722 mewn brwydr yn erbyn llong o'r Llynges Frenhinol.
Yn ôl yr adroddiadau ar y pryd fe daflwyd ei gorff i'r môr, a holl wisg y môr-leidr amdano, yn ôl ei ddymuniad.
Bellach, mae'r Llyfrgell Genedlaethol newydd brynu The Political State of Great Britain sy’n cynnwys adroddiad o’r cyfnod am farwolaeth Roberts.
Cyhoeddwyd y cyfnodolyn ddwywaith y flwyddyn o 1711 i 1740 ac roedd yn cynnwys newyddion milwrol a gwleidyddol.
Dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol: “Yng nghyfrol 23 ar gyfer Mehefin 1722 ceir disgrifiad o'r frwydr rhwng llong Barti Ddu a'r llong The Swallow oedd o dan reolaeth Capten Ogle, lle cafodd y môr-leidr enwog ei ladd. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys un o'r disgrifiadau cyntaf o faner y Jolly Roger.
“Mae'r cylchgrawn prin hwn yn ychwanegiad at ddaliadau'r Llyfrgell o gyhoeddiadau cynnar am fôr-ladron Cymreig."
Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu argraffiadau 1684 ac 1704 o Bucaniers of America gan Alexandre Exquemelin, sydd yn cynnwys hanes bywyd môr leidr arall o Gymru, Harri Morgan.
Dywedodd y Llyfrgell bod y “Cymry hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth i weithiau ffuglen megis Treasure Island gan Robert Louis Stevenson a'r gyfres o ffilmiau Pirates of the Caribbean”.
Fe wnaeth yr awdur a’r bardd T. Llew Jones hefyd sgrifennu am y môr leidr yn ei gyfrol ‘Barti Ddu o Gasnewy’ Bach' a gyhoeddwyd yn 1973.