Newyddion S4C

Y Llywodraeth ‘wedi diystyru’ pryderon am ymddygiad yn Ysgol Dyffryn Aman fisoedd cyn ymosodiad

Y Byd ar Bedwar 17/02/2025

Y Llywodraeth ‘wedi diystyru’ pryderon am ymddygiad yn Ysgol Dyffryn Aman fisoedd cyn ymosodiad

Fe ysgrifennodd Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Dyffryn Aman at Lywodraeth Cymru dri mis cyn i ddau athro a disgybl gael eu trywanu yno i fynegi pryderon am ymddygiad disgyblion. 

Dechreuodd Ceri Myers ei rôl fel Dirprwy Bennaeth yn yr ysgol fis Medi 2023. Mae wedi dweud wrth raglen Y Byd ar Bedwar bod ymosodiadau wedi’u targedu at staff yn cynyddu.

Dywedodd: “Ges i fy nharo yng nghefn fy mhen. Cafodd hyn ei drin fel rhywbeth fyddai’n digwydd unwaith yng ngyrfa rhywun. Ond fyddwn i’n dweud ‘mod i wedi delio â pump neu chwech o ddigwyddiadau ‘unwaith mewn gyrfa' yn y flwyddyn ddiwetha [blwyddyn academaidd 2023/ 2024].

“Mae sawl achlysur wedi bod ble mae arfau’n cael eu cludo i’r ysgol, gan gynnwys cyllell.”

Yn Ionawr 2024, fe wnaeth Ceri ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon am ddefnydd fêps, ymddygiad disgyblion a’r hyn mae’n disgrifio fel diffyg eglurder o fewn canllawiau’r llywodraeth i fynd i’r afael ag o. Roedd Ceri’n pryderu’n benodol am y gwahaniaeth rhwng y pwerau sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr i archwilio disgyblion am eitemau.

“Roedd ‘na gyfres o ebyst ble, yn syml, roedd y llywodraeth yn fy niystyru i, i ryw raddau," meddai.

"Nes i ddweud nad oeddwn i’n hapus â’r ymateb yna, ac y byddwn i’n hoffi cael sgwrs bellach. Cafodd yr ebyst ola’ eu danfon ar fore’r ymosodiad yn Nyffryn Aman.”

Image
Cyllell yn achos Ysgol Dyffryn Aman
Yn ôl Mr Myers, mae "sawl achlysur" wedi bod ble mae arfau’n cael eu cludo i’r ysgol

Fe wnaeth Ceri a Llywodraeth Cymru gyfnewid saith ebost rhwng Ionawr 2024 a bore’r ymosodiad ar Ebrill 24, 2024. 

Cafodd dau athro, Fiona Elias a Liz Hopkin, ynghyd â disgybl, eu hanafu yn sgil y trywanu. 

“Chi byth yn mynd mewn i ysgol yn credu y byddai hynny’n digwydd, ond fi'n credu bod rhybuddion i bob ysgol yng Nghymru bod rhywbeth fel hyn yn mynd i ddigwydd," meddai Ceri Myers.

“Fi ‘di bod yn cael sgyrsiau am y diffyg eglurder yn y canllawiau i wneud pethau gwahanol gyda’r llywodraeth. Oedden ni wedi cael sgwrs y bore hwnnw, a fi dal i aros am ymateb.”

'Sir ddim yn cefnogi'

Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth i Ysgol Dyffryn Aman yn dangos bod pedwar achlysur wedi’u cofnodi yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 lle cafodd arfau eu cludo i’r ysgol, ond dim ond dau ddisgybl gafodd eu diarddel yn barhaol. 

Yn ystod achos llys y disgybl oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, fe ddaeth i’r amlwg iddi gael ei dal gyda chyllell yn Ysgol Dyffryn Aman fis Medi 2023, wnaeth arwain at ddiarddeliad am gyfnod penodol. 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru’n datgan bod defnyddio, neu fygwth defnyddio arfau ymosodol yn gallu cael ei ystyried fel achlysur eithriadol lle gall prifathro ddiarddel disgybl am droseddu’r tro cyntaf. 

Ond yn ôl Ceri, wnaeth hyn ddim digwydd pob tro. 

Ychwanegodd: “Ar fwy nag un adeg, fel ysgol, fe gafon ni’r sgwrs gyda'r sir i ddweud bod rhywun ‘di cario cyllell. Dyma beth hoffen ni wneud.’ Ac wedyn, y sir yn ymateb, ‘Na, dydyn ni ddim yn mynd i gefnogi eich bod chi’n gwahardd yr unigolyn yn barhaol'.

"Yn y pendraw, beth mae hynny’n golygu yw bod y disgyblion yn gwybod, os ydyn nhw’n dod â chyllell mewn i’r ysgol, neu arf arall mewn i’r ysgol, does dim bygythiad i’w lle nhw yn yr ysgol.

Ni’n dod at y problemau o ddau safbwynt gwahanol - do’dd y sir ddim yn cefnogi rhai o’r penderfyniadau oedden ni moyn ‘neud.”

'Ddim yn ymwybodol'

Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, a Phennaeth Ysgol Dyffryn Aman, Mr. James Durbridge:

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ysgol Dyffryn Aman yn falch iawn o'r berthynas ragorol sy'n bodoli rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Ysgol.

"Yn dilyn diwedd yr achos llys diweddar, mae'r Cyngor Sir wedi cyfeirio'r achos, mewn perthynas ag amgylchiadau'r digwyddiad ar 24 Ebrill 2024, at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac rydym yn aros am eu penderfyniad ynghylch fformat ac amserlen yr adolygiad amlasiantaeth.

"Nid ydym yn ymwybodol o ddigwyddiadau lle mae'r Ysgol a'r Awdurdod Lleol wedi bod yn gweithio yn erbyn ei gilydd neu'n anghytuno â'i gilydd. Byddwn yn ymateb i unrhyw ganfyddiadau y bydd yr adolygiad amlasiantaeth annibynnol yn eu nodi.”

'Cysgu wrth y llyw'

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cynnal cyfarfod gyda Ceri i drafod ei bryderon. Ond, erbyn hyn, mae Ceri Myers wedi ymddiswyddo ac mae bellach yn gweithio mewn academi yn Llundain lle mae e’n gyfrifol am ddiogelwch ac ymddygiad disgyblion. 

“Fi ddim yn credu alla i weithio mewn system ble, i rhyw raddau, mae ‘nwylo i wedi eu clymu, a does dim cefnogaeth i wneud y pethau sydd angen i sicrhau bod ymddygiad mor dda ag y gall e fod, a bod disgyblion mor ddiogel mewn ysgolion ag y gallan nhw fod," meddai.

“Ma’r Llywodraeth yn cysgu wrth y llyw, fi wir yn credu hynny. Fi isie gweld y canllawiau yn rhoi mwy o bwerau i ysgolion fel ei bod hi’n gliriach beth all ysgolion ei wneud a beth allan nhw ddim ei wneud - a bod hyn yn galluogi ysgolion i fod yn llymach.”

Image
Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg
Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg:

"Mae unrhyw drais tuag at athrawon neu staff yn gwbl annerbyniol. Dylai pob ysgol fod yn lleoedd diogel i ddysgwyr a staff. Dylai fod gan bob ysgol bolisïau ymddygiad sy'n cael eu gweithredu'n gyson.

"Fel Llywodraeth rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio'n gryf iawn ar fynd i'r afael â materion ymddygiad gwael. Mae ein huwchgynhadledd ymddygiad ar y gweill lle rydym yn mynd i gael golwg sy'n canolbwyntio ar weithredu ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud yn y gofod hwn. 

"Rydym yn datblygu pecyn cymorth ymddygiad i ysgolion i helpu ysgolion i reoli ymddygiad heriol a... mae gennym hefyd ganllawiau cryf ar waith ar yr hyn a all fod yn resymau dros wahardd ac ar hyn o bryd, gall cael cyllell yn yr ysgol fod yn rheswm dros wahardd yn awtomatig.

"Dydyn ni ddim wedi bod yn cysgu wrth y llyw. Rydw i wedi gweld y gohebiaeth gan y dyn dan sylw lle roedd e wedi sôn am allu athrawon i chwilio am gyffuriau a fêps ac maen nhw yn gallu gwneud hyn gyda chaniatâd. Fel y dywedais, mae ein cyngor yn glir iawn ar gyllyll.

"Fel rydw i wedi’i ddweud, mae ein harweiniad yn glir iawn ar fater cyllyll. Gallant fod yn achos gwahardd ar unwaith. Mewn perthynas â'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman, yn amlwg mae fy nghalon yn mynd allan i bawb yn yr ysgol.

"Nawr bod yr achos drosodd mae angen i ni edrych ar bopeth a ddigwyddodd yn y cyfnod cyn y diwrnod hwnnw i ddeall beth ddigwyddodd a dysgu unrhyw wersi. 

"Yn ein huwchgynhadledd ymddygiad rydyn ni'n mynd i ddod ag awdurdodau lleol, ymarferwyr ac undebau llafur ynghyd i edrych ar rai o'r materion hyn."

Gwyliwch raglen lawn Y Byd ar Bedwar ddydd Llun, Chwefror 17 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 8yh.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.