Gwaharddiad oes i gyn-reolwr Amlwch am ymosod ar lumanwr
Mae cyn reolwr pêl-droed wedi derbyn gwaharddiad am oes a dirwy o £3,000 gan Gymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru am ymosod ar lumanwr.
Mae Clwb Pêl-droed Tref Amlwch hefyd wedi derbyn dirwy yn dilyn y digwyddiad ar faes Lôn Bach fis Ebrill y llynedd.
Cafodd Robert Williams-Jones o Laneilian ddedfryd o garchar wedi'i ohirio ym mis Ionawr wedi’r digwyddiad yn y gêm rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth.
Plediodd Williams-Jones yn euog i ymosod ac achosi niwed corfforol i’r llumanwr, oedd yn aelod o glwb Penrhyndeudraeth.
Roedd yn rhaid iddo hefyd gyflawni 150 awr o waith di-dâl yn ogystal â thalu iawndal o £1,000.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru bod eu panel disgyblu wedi trafod y digwyddiad.
Penderfynodd y panel wahardd Williams-Jones am oes, yn ogystal â gosod dirwy o £3,000 a gorchymyn iddo £50 mewn costau.
Rhoddwyd dirwy o £2,500 i Glwb Pêl-droed Tref Amlwch, gyda £2,000 o'r ddirwy wedi'i ohirio am 12 mis.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru: “Cafodd y mater sylw sylweddol yn y cyfryngau, ond dim ond ar ôl i’r heddlu ddod â’u hachos i ben y bu modd i ni ei ystyried.
“Mae neges Panel Disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru yn glir: nid oes lle i ymddygiad ymosodol mewn pêl-droed o fewn ardal y gymdeithas.
“Bydd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru yn parhau i gymryd camau cadarn ar unrhyw achosion o gam-drin.
“Mae'r mater hwn bellach wedi'i gau, ac ni fydd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru yn gwneud unrhyw sylw pellach.”