Dyn wedi ei arestio yn dilyn marwolaeth dynes yng Ngwalchmai, Môn
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi bod dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 47 oed yng Ngwalchmai, Ynys Môn.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o anafu ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Cafodd dyn 54 oed ei arestio ar amheuaeth o anafu mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
"Ers hynny mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal."
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn y pentref ar 6 Chwefror wedi i'r ddynes gael ei darganfod gydag anafiadau difrifol.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw'n ddiweddarach.
Mewn datganiad ar y pryd dywedodd yr heddlu: "Mae'r crwner wedi cael gwybod, a rydym ni'n parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau o gwmpas ei marwolaeth."