
Tân gwair dros ardal o 100,000 metr sgwar ym Mhen Llŷn
Tân gwair dros ardal o 100,000 metr sgwar ym Mhen Llŷn
Cafodd criwiau tân eu galw i ddiffodd tân gwair mawr ym Mhen Llŷn dros nos.
Mae'r tân wedi effeithio ar ardal o dir 100,000 metr sgwar.
Cafodd criwiau eu galw i'r digwyddiad yn Llanbedrog, ger Abersoch, am 21:12 nos Iau, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd.
Mae'r tân yn dal i losgi dros chwe hectar o eithin ar fore Gwener.
Mae dau griw yn dal i fod ar y safle, yn ogystal â cherbyd arbenigol a chyfarpar ar gyfer tanau gwair.
Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Cawsom ein galw i dân gwyllt ar ochr bryn yn Llanbedrog am 21.42 o’r gloch neithiwr.
"Roedd tua 100,000m2 o eithin a rhedyn wedi ei effeithio gan y tân. Ar anterth y digwyddiad roedd pedwar criw, uned tanau gwyllt a cherbyd mynediad cul yn bresennol.
"Mae dau beiriant a cherbyd mynediad cul yn parhau i fod yn bresennol, ac rydym yn debygol o aros yno yn monitro'r tân am nifer o oriau."
Ychwanegodd y gwasanaeth nad yw achos y tân yn hysbys ar hyn o bryd.
