Newyddion S4C

Caernarfon: Trafod pryderon lleol am orsaf nwy a gwaith chwalu concrit

Caernarfon: Trafod pryderon lleol am orsaf nwy a gwaith chwalu concrit

Yng Nghaernarfon mae pryder am gynlluniau i sefydlu gorsaf nwy a gwaith chwalu concrit ar safle hen chwarel.  

Nos Iau fe ddaeth pobl at ei gilydd mewn cyfarfod yng nglwb rygbi'r dref i drafod y cynllun.

Mae cwmni peirianyddol Jones Brothers eisiau adeiladu'r orsaf nwy ar safle'r hen waith brics yn Chwarel Seiont, yn agos i ardal yr Hendre.

Mae'r cwmni wedi cwblhau proses o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â'r cynllun ac fe fydd mynedfa newydd i'r safle'n lleihau peryglon traffig i gerbydau sy'n mynd a dod oddi yno medd Jones Brothers.

Mae camau mewn lle i leddfu pryderon y bobl leol am unrhyw sŵn a'r effaith ar yr amgylchedd hefyd medd y cwmni.

Un sydd yn gwrthwynebu'r datblygiad yw aelod Plaid Cymru dros Arfon yn Senedd Cymru. Dywedodd Sian Gwenllian AS: "Fel llawer o rai eraill, rwy’n bryderus iawn am yr effaith amgylcheddol, yn enwedig y cynnydd mewn allyriadau carbon a’r niwed posibl i ansawdd aer lleol. 

"Ar adeg pan ddylem ganolbwyntio ar gyrraedd targedau sero net, mae buddsoddi mewn tanwyddau ffosil yn mynd i’r cyfeiriad anghywir yn llwyr.

"Yr hyn sy'n gwneud y cynnig hwn hyd yn oed yn fwy rhwystredig yw bod cymaint eisoes mentrau ynni cymunedol cyffrous ar draws Arfon sy'n profi bod dyfodol glanach, gwyrddach yn bosibl.

"Mae grwpiau lleol yn gweithio'n galed i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynlluniau ynni dŵr sy’n eiddo i’r gymuned." 

Oherwydd bod y cynllun yn cael ei ystyried fel datblygiad "o arwyddocad cenedlaethol", nid cyngor Gwynedd fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais cynllunio. 

Byddai’r orsaf yn defnyddio nwy a oedd yn arfer bwydo'r gwaith brics, er mwyn cynhyrchu 20 megawat o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.

Byddai’r datblygiad yn cynnwys 10 injan nwy naturiol, setiau cynhyrchu, ystafell gyfnewid ac adeilad cyfleuster lles i weithwyr cynnal a chadw’r safle, mewn compownd wedi'i ffensio, mewn ardal o faint o tua 3300 medr sgwâr. 

Ni fyddai unrhyw weithwyr parhaol ar y safle.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n credu y byddai’r datblygiad yn debygol o gael ‘effaith sylweddol ar yr amgylchedd’.

Fe fydd nifer o wrandawiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal i drafod y cynllun o'r wythnos nesaf ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.