£10.5 miliwn i sefydlu ysgol fusnes newydd ym Mangor
Mae elusen wedi rhoi £10.5 miliwn i sefydlu ysgol fusnes newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Sefydliad Elusennol Albert Gubay wedi rhoi'r cyllid er cof am sylfaenydd yr archfarchnad Kwik Save.
Yn ôl Prifysgol Bangor, bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi’i leoli ar safle hen Ysgol Friars yn y ddinas.
Bwriad yr ysgol newydd yw "ysbrydoli ac arfogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arweinwyr", meddai.
Mae gan Brifysgol Bangor ysgol fusnes eisoes ond bydd y cyllid yn ei galluogi i "symud i gyfleuster deinamig a modern".
Mae disgwyl i'r gwaith o drawsnewid yr adeilad gael ei gwblhau erbyn 2027.
Pwy oedd Albert Gubay?
Wedi’i eni a’i fagu yn y Rhyl, roedd Albert Gubay yn ddyn busnes â gweledigaeth a gafodd effaith barhaol ar y sector busnes a’r sector elusennol.
Ar ôl cael ei ryddhau o’r fyddin yn 1948, roedd gan Gubay siwt a £80, ac aeth ati, gyda chymorth benthyciad o £100 yn erbyn gemwaith ei fam, i ddechrau gwerthu losin di-siwgr ar adeg pan oedd siwgr yn dal wedi ei ddogni.
Yn ddiweddarach fe ddechreuodd werthu roc a melysion eraill, gan wneud hynny o gefn ei fan ar hyd a lled gogledd Cymru.
Erbyn 1959 roedd wedi dechrau'r gadwyn Value Foods yn y Rhyl, ond mae'n fwyaf enwog am sefydlu Kwik Save, gan agor ei siop gyntaf ym Mhrestatyn yn 1965.
Fe gafodd Sefydliad Elusennol Albert Gubay ei sefydlu yn 2008.
Mae'n rheoli portffolio eiddo trwy ei is-gwmni, Derwent Estates, ac mae'r incwm a ddaw o'r eiddo’n cefnogi rhaglen grantiau'r sefydliad.
Ers 2016, mae’r sefydliad wedi rhoi dros 700 o grantiau, gan ariannu amrywiaeth o brosiectau cymunedol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke, y bydd yr ysgol newydd yn rhoi "cyfleoedd pellach" i fyfyrwyr ym myd busnes.
"Bydd y rhodd hon nid yn unig yn dyrchafu enw da Prifysgol Bangor fel canolfan o ragoriaeth academaidd ond hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i fyfyrwyr gael effaith sylweddol ym myd busnes," meddai.
"Er bod y tirwedd ariannol yn heriol i brifysgolion ar hyn o bryd, mae buddsoddi’n strategol mewn meysydd allweddol fel hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynaladwyedd a thwf hirdymor ein sefydliad."